RHAN 4TRINIAETHAU ARBENNIG
Mangreoedd a cherbydau a gymeradwywyd
73Dirymu cymeradwyaeth
(1)
Os yw awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y ddau amod yn is-adran (2) wedi eu bodloni, caiff roi hysbysiad i berson (“P”) y cymeradwywyd mangre neu gerbyd ar ei gais o dan adran 70 gan yr awdurdod, sy’n dirymu’r gymeradwyaeth i’r fangre neu’r cerbyd o dan yr adran honno mewn cysylltiad â thriniaeth arbennig a bennir yn yr hysbysiad.
(2)
Yr amodau yw—
(a)
na chydymffurfiwyd â’r amodau cymeradwyo mandadol sy’n gymwys mewn cysylltiad â’r fangre neu’r cerbyd, a
(b)
bod peidio â chydymffurfio yn peri risg sylweddol, neu y gallai beri risg sylweddol, o niwed i iechyd dynol.
(3)
Mae paragraffau 15 i 21 o Atodlen 3 yn gymwys mewn cysylltiad â dirymiad o dan yr adran hon fel pe bai’r dirymiad yn ddirymiad o dan adran 68 (dirymu trwydded triniaeth arbennig) ac at y diben hwn mae cyfeiriadau yn y paragraffau hynny—
(a)
at ddeiliad trwydded, i gael eu trin fel cyfeiriadau at P;
(b)
at hysbysiad a roddir o dan adran 68, i gael eu trin fel cyfeiriadau at hysbysiad o dan is-adran (1);
(c)
at swyddogaethau o dan adran 68, i gael eu trin fel cyfeiriadau at swyddogaethau o dan yr adran hon.
(4)
Caiff dirymiad o dan yr adran hon effaith—
(a)
pan ddaw’r cyfnod ar gyfer dwyn apêl o dan Atodlen 3 mewn cysylltiad â’r dirymiad i ben, os na chaiff apêl ei dwyn o dan yr Atodlen honno o fewn y cyfnod hwnnw;
(b)
â’r dyddiad y tynnir yn ôl unrhyw apêl neu apêl bellach a gaiff ei dwyn mewn cysylltiad â’r dirymiad, neu ddyddiad dyfarniad terfynol ar unrhyw apêl neu apêl bellach aflwyddiannus a gaiff ei dwyn mewn cysylltiad â’r dirymiad, pan fo’r apêl neu’r apêl bellach wedi ei dwyn o dan Atodlen 3 a phan na fo apêl bellach ar gael o dan yr Atodlen honno;
(c)
pan ddaw’r cyfnod ar gyfer dwyn apêl bellach o dan Atodlen 3 i ben, pan fo apêl a gaiff ei dwyn o dan Atodlen 3 mewn cysylltiad â’r dirymiad wedi ei thynnu’n ôl neu’n aflwyddiannus, ac mae apêl bellach o dan Atodlen 3 ar gael ond ni chaiff ei dwyn o fewn y cyfnod hwnnw.