RHAN 4TRINIAETHAU ARBENNIG
Rhoi triniaeth arbennig: gofyniad trwyddedu
59Darpariaeth gyffredinol ynghylch trwyddedau triniaeth arbennig
(1)
Mae trwydded triniaeth arbennig yn drwydded a ddyroddir gan awdurdod lleol o dan y Rhan hon.
(2)
At ddibenion y Rhan hon, mae trwydded triniaeth arbennig yn awdurdodi i’r driniaeth arbennig (neu’r triniaethau arbennig hynny) a bennir yn y drwydded gael ei rhoi yng Nghymru gan ddeiliad y drwydded.
(3)
Ond nid yw trwydded i gael ei thrin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi mewn mangre neu mewn cerbyd yng Nghymru sydd naill ai wedi ei meddiannu neu ei feddiannu gan, neu sydd i unrhyw raddau yn cael ei rheoli neu ei reoli gan, neu sydd i unrhyw raddau o dan reolaeth—
(a)
yr unigolyn sy’n rhoi’r driniaeth (“P”), neu
(b)
pan fo P yn rhoi’r driniaeth o dan gontract gwasanaeth neu brentisiaeth, neu gontract am wasanaethau â pherson arall (“E”), E,
oni bai bod yr amodau yn is-adran (4) wedi eu bodloni.
(4)
Yr amodau yw bod y fangre neu’r cerbyd—
(a)
wedi ei nodi yn y drwydded, a
(b)
wedi ei chymeradwyo neu wedi ei gymeradwyo o dan adran 70 mewn cysylltiad â’r driniaeth.
(5)
Ond nid yw is-adran (3) yn gymwys os nad yw’r gofyniad yn adran 69(2) (triniaeth i gael ei chynnal mewn mangre neu gerbyd a gymeradwywyd yn unig), yn rhinwedd rheoliadau o dan adran 69(8), yn gymwys mewn cysylltiad â’r fangre neu’r cerbyd o dan sylw.
(6)
Mae’r cyfnod pan yw trwydded triniaeth arbennig yn awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi i gael ei bennu yn y drwydded, a rhaid i’r cyfnod naill ai—
(a)
bod yn gyfnod nad yw’n hwy na saith niwrnod, sy’n dechrau â dyddiad a bennir yn y drwydded, neu
(b)
bod yn gyfnod o dair blynedd, sy’n dechrau â dyddiad dyroddi’r drwydded.
(7)
Am ddarpariaeth ynghylch ceisiadau am drwyddedau triniaeth arbennig, ac ynghylch amrywio, adnewyddu a dirymu trwyddedau triniaeth arbennig, gweler Atodlen 3.
(8)
Yn y Rhan hon—
(a)
mae cyfeiriadau at gyfnod y drwydded, mewn perthynas â thrwydded triniaeth arbennig, yn gyfeiriadau at y cyfnod pan yw’r drwydded yn awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi;
(b)
mae cyfeiriadau at ddeiliad y drwydded, mewn perthynas â thrwydded triniaeth arbennig, yn gyfeiriadau at yr unigolyn y dyroddir y drwydded iddo;
(c)
mae cyfeiriadau at drwydded dros dro yn gyfeiriadau at drwydded sy’n awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi am gyfnod nad yw’n hwy na saith niwrnod.