RHAN 3TYBACO A CHYNHYRCHION NICOTIN

PENNOD 2MANWERTHWYR TYBACO A CHYNHYRCHION NICOTIN

Cofrestr o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin

31Cais am gofnod yn y gofrestr

(1)

Caniateir i gais gael ei wneud i’r awdurdod cofrestru—

(a)

i berson gael ei gofrestru mewn cysylltiad â chynnal busnes tybaco neu nicotin, neu

(b)

os yw’r ceisydd eisoes yn berson cofrestredig—

(i)

i ychwanegu mangreoedd pellach at gofnod y person yn y gofrestr, neu

(ii)

yn achos mangre sy’n strwythur symudol, stondin, pabell neu gerbyd, i ychwanegu awdurdod lleol arall at gofnod y person yn y gofrestr.

(2)

Rhaid i gais o dan is-adran (1)—

(a)

datgan enw a chyfeiriad y ceisydd (gweler adran 30(5) am hyn);

(b)

os gwneir y cais o dan is-adran (1)(a), ddatgan cyfeiriad pob un o’r mangreoedd lle y mae’r ceisydd yn bwriadu cynnal busnes tybaco neu nicotin;

(c)

os gwneir y cais o dan is-adran (1)(b)(i), ddatgan cyfeiriad pob un o’r mangreoedd pellach lle y mae’r ceisydd yn bwriadu cynnal busnes tybaco neu nicotin;

(d)

datgan a yw’r ceisydd yn bwriadu gwerthu—

(i)

tybaco neu bapurau sigaréts,

(ii)

cynhyrchion nicotin, neu

(iii)

unrhyw gyfuniad o’r eitemau hynny,

yn y mangreoedd a ddatgenir yn unol â pharagraff (b) neu (c);

(e)

datgan a yw’r ceisydd yn bwriadu cynnal busnes mewn ffordd sy’n golygu gwneud trefniadau i dybaco, papurau sigaréts neu gynhyrchion nicotin—

(i)

cael eu danfon i fangreoedd yng Nghymru, neu

(ii)

yn dilyn gwerthiant a gyflawnir dros y ffôn, dros y rhyngrwyd neu drwy fath arall o dechnoleg electronig neu dechnoleg arall, gael eu casglu o fangre yng Nghymru;

(f)

yn achos mangre sy’n strwythur symudol, stondin, pabell neu gerbyd—

(i)

os gwneir y cais o dan is-adran (1)(a), ddatgan enw pob awdurdod lleol y mae’r ceisydd yn bwriadu cynnal y busnes tybaco neu nicotin yn ei ardal, a

(ii)

os gwneir y cais o dan is-adran (1)(b)(ii), ddatgan enw pob awdurdod lleol ychwanegol y mae’r ceisydd yn bwriadu cynnal busnes tybaco neu nicotin yn ei ardal.

(3)

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth—

(a)

ynghylch ffurf cais o dan is-adran (1) a’r ffordd y mae i gael ei wneud;

(b)

ynghylch gwybodaeth arall sydd i gael ei chynnwys mewn cais (gan gynnwys, yn achos cais gan berson sy’n bwriadu cynnal busnes tybaco neu nicotin fel y’i disgrifir yn is-adran (2)(e), wybodaeth sy’n ymwneud â natur y trefniadau o dan sylw);

(c)

sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliad o ffi fynd gyda chais o dan is-adran (1)(a) neu (1)(b)(i).

(4)

Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)

ystyried a oes personau yr ymddengys eu bod yn cynrychioli buddiannau’r rheini y mae’r rheoliadau yn debygol o effeithio arnynt (“personau cynrychiadol”), a

(b)

cynnal ymgynghoriad ag unrhyw bersonau cynrychiadol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(5)

Os yw’r fangre lle y mae’r ceisydd yn bwriadu cynnal busnes tybaco neu nicotin yn strwythur symudol, stondin, pabell neu gerbyd, mae’r cyfeiriad a ddatgenir yn y cais yn unol ag is-adran (2)(a) i gael ei ddatgan fel cyfeiriad y fangre at ddiben is-adran (2)(b) ac (c).