RHAN 3TYBACO A CHYNHYRCHION NICOTIN

PENNOD 1YSMYGU

Gorfodi

23Pwerau arolygu etc.

(1)

Caiff swyddog awdurdodedig sy’n mynd i mewn i fangre o dan adran 19, neu yn rhinwedd gwarant o dan adran 20 neu 21, wneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 5, 6 neu 17 wedi ei chyflawni—

(a)

cynnal arolygiadau ac archwiliadau yn y fangre;

(b)

ei gwneud yn ofynnol cyflwyno unrhyw beth yn y fangre, ei arolygu, a chymryd a chadw samplau ohono neu echdynion ohono;

(c)

cymryd meddiant o unrhyw beth yn y fangre, a’i gadw am gyhyd ag y mae’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at y diben hwnnw;

(d)

ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi gwybodaeth, neu ddarparu cyfleusterau a chymorth mewn cysylltiad â materion sydd o fewn rheolaeth y person.

(2)

Os yw’r swyddog awdurdodedig yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 5, 6 neu 17 wedi ei chyflawni, caiff y swyddog drefnu i unrhyw beth a gyflwynir o dan is-adran (1)(b), neu y mae’r swyddog wedi cymryd meddiant ohono o dan is-adran (1)(c), gael ei ddadansoddi.

(3)

Os yw’r swyddog awdurdodedig, yn rhinwedd is-adran (1)(c), yn cymryd unrhyw beth o’r fangre, rhaid i’r swyddog adael yn y fangre y cafodd ei gymryd ohoni ddatganiad—

(a)

sy’n rhoi manylion yr hyn sydd wedi ei gymryd ac sy’n datgan bod y swyddog wedi cymryd meddiant ohono, a

(b)

sy’n nodi’r person y caniateir gofyn iddo i’r eiddo gael ei ddychwelyd.

(4)

Mae’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys y pŵer—

(a)

i gopïo dogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre;

(b)

i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre ac a gedwir yn electronig).

(5)

At y diben hwn, mae “dogfennau” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf; ac mae cyfeiriadau at ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—

(a)

dogfennau a gedwir ar gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre, a

(b)

dogfennau a gedwir yn rhywle arall ac y gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre.

(6)

Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.

(7)

Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiwn neu gyflwyno unrhyw ddogfen y byddai hawl gan y person i wrthod ei ateb neu wrthod ei chyflwyno mewn achos mewn llys yng Nghymru a Lloegr neu at ddibenion achos o’r fath.