Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

19Pwerau mynediadLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff swyddog awdurdodedig fynd i mewn i fangre yng Nghymru ar unrhyw adeg resymol—

(a)os oes gan y swyddog seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 5, 6 neu 17 wedi ei chyflawni yn y fangre, a

(b)os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i mewn i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni.

(2)Ond nid yw hyn yn gymwys mewn perthynas â mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd.

(3)Ni chaiff swyddog awdurdodedig fynd i mewn i fangre drwy rym o dan yr adran hon.

(4)Rhaid i swyddog awdurdodedig, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o’r awdurdodiad y cyfeirir ato yn adran 18(5) cyn mynd i mewn i fangre o dan yr adran hon.

(5)Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I2A. 19 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2