RHAN 9AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Cyffredinol

122Rhoi hysbysiadau

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon neu mewn rheoliadau a wneir odani yn ei gwneud yn ofynnol i berson roi hysbysiad i berson arall (“P”) neu’n awdurdodi person i wneud hynny.

(2)

Rhaid i’r hysbysiad fod yn ysgrifenedig.

(3)

Caniateir i’r hysbysiad gael ei roi i P mewn unrhyw un o’r ffyrdd a ganlyn—

(a)

drwy ei ddanfon at P;

(b)

drwy ei adael mewn unrhyw gyfeiriad a bennir gan P yn gyfeiriad ar gyfer rhoi hysbysiadau neu ei bostio i gyfeiriad o’r fath, neu (os nad yw P wedi pennu cyfeiriad at y diben hwn) drwy ei adael yng nghyfeiriad arferol P neu ei bostio i’r cyfeiriad hwnnw;

(c)

os yw’r amodau yn is-adran (4) wedi eu bodloni, drwy ei anfon yn electronig at P.

(4)

Yr amodau yw—

(a)

bod P wedi nodi i’r person sy’n anfon yr hysbysiad ei fod yn barod i gael yr hysbysiad yn electronig, ac wedi darparu i’r person hwnnw gyfeiriad addas at y diben hwnnw, a

(b)

bod yr hysbysiad yn cael ei anfon i’r cyfeiriad hwnnw.

(5)

Cyfeiriad arferol P, at ddiben is-adran (3)(b), yw—

(a)

os yw P yn gorff corfforaethol, gyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;

(b)

os yw P yn gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel partner mewn partneriaeth, gyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth;

(c)

os yw P yn awdurdod lleol, brif swyddfa’r awdurdod lleol;

(d)

mewn unrhyw achos arall, breswylfa neu fan busnes hysbys diwethaf P.

(6)

Ni chaniateir i hysbysiad cosb benodedig a roddir o dan adran 27 neu 49 gael ei roi i P drwy ei anfon yn electronig.

(7)

Mae’r cyfeiriad yn is-adran (3)(a) at ddanfon hysbysiad at P—

(a)

os yw P yn gorff corfforaethol, yn gyfeiriad at ddanfon yr hysbysiad at ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw;

(b)

os yw P yn bartneriaeth, yn gyfeiriad at ddanfon yr hysbysiad at bartner neu berson y mae busnes y bartneriaeth o dan ei reolaeth neu sy’n rheoli busnes y bartneriaeth.

(8)

Mae hysbysiad a roddir i P drwy ei adael mewn man yn unol ag is-adran (3)(b) i gael ei drin fel pe bai wedi ei roi ar yr adeg y’i gadawyd yn y man hwnnw.