RHAN 8DARPARU TOILEDAU

Strategaethau toiledau lleol

113Strategaethau toiledau lleol: llunio ac adolygu

(1)

Rhaid i awdurdod lleol lunio a chyhoeddi strategaeth toiledau lleol cyn diwedd y cyfnod o un flwyddyn sy’n dechrau â’r dyddiad y daw’r adran hon i rym.

(2)

Rhaid i strategaeth toiledau lleol gynnwys—

(a)

asesiad o’r angen i doiledau yn ardal yr awdurdod lleol fod ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio,

(b)

datganiad sy’n nodi’r camau y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu cymryd i ddiwallu’r angen hwnnw, ac

(c)

unrhyw wybodaeth arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn briodol.

(3)

Rhaid i awdurdod lleol gynnal adolygiad o’i strategaeth toiledau lleol ar ôl pob etholiad cyffredin a gynhelir ar gyfer ei ardal o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70); a rhaid i bob adolygiad gael ei gynnal cyn diwedd y cyfnod o un flwyddyn sy’n dechrau â dyddiad yr etholiad.

(4)

Caiff awdurdod lleol, yn ychwanegol at adolygiad sy’n ofynnol gan is-adran (3), gynnal adolygiadau eraill o’i strategaeth toiledau lleol.

(5)

Pan yw awdurdod leol yn adolygu ei strategaeth toiledau lleol, rhaid iddo gyhoeddi datganiad o’r camau y mae wedi eu cymryd yn unol â’r strategaeth yn ystod y cyfnod—

(a)

sy’n dechrau â’r dyddiad y cyhoeddwyd y strategaeth ddiwethaf, a

(b)

sy’n dod i ben â’r dyddiad y dechreuodd yr adolygiad hwnnw.

(6)

Pan yw awdurdod lleol yn adolygu ei strategaeth toiledau lleol ac yn ystyried bod angen ei newid, rhaid iddo—

(a)

diwygio’r strategaeth, a

(b)

cyhoeddi’r strategaeth ddiwygiedig.

(7)

Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch y materion y dylent eu hystyried wrth—

(a)

llunio strategaeth toiledau lleol,

(b)

adolygu strategaeth toiledau lleol,

(c)

ymgynghori ar strategaeth toiledau lleol o dan adran 115, neu

(d)

cyhoeddi strategaeth toiledau lleol.

(8)

Rhaid i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (7) wneud darpariaeth ynghylch—

(a)

yr asesiad o’r angen—

(i)

i doiledau fod ar gael i ddefnyddwyr priffyrdd a llwybrau teithio llesol eu defnyddio;

(ii)

i doiledau fod ar gael i’w defnyddio gan ddefnyddwyr safleoedd a chyfleusterau eraill sydd, gan roi sylw i feini prawf a nodir yn y canllawiau, yn gyfleusterau o arwyddocâd penodol ar gyfer trafnidiaeth;

(iii)

i doiledau fod ar gael i’w defnyddio yng nghyffiniau safleoedd ac mewn cysylltiad â digwyddiadau sydd, gan roi sylw i feini prawf a nodir yn y canllawiau, o arwyddocâd penodol neu o ddiddordeb diwylliannol, o ddiddordeb o ran chwaraeon neu o ddiddordeb hanesyddol, poblogaidd neu genedlaethol;

(iv)

i doiledau sydd mewn mangreoedd sy’n cael eu cyllido’n gyhoeddus (pa un ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol) fod ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio,

(b)

hybu ymwybyddiaeth gyhoeddus o doiledau sydd ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio, ac

(c)

cydweithredu rhwng awdurdodau lleol.

(9)

Yn is-adran (8) mae i “priffordd” yr ystyr a roddir i “highway” gan adran 328 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p.66).

(10)

At ddibenion is-adran (8), mae llwybr yn llwybr teithio llesol os y’i dangosir fel llwybr teithio llesol ar y map a luniwyd yn fwyaf diweddar gan awdurdod lleol o dan adran 3 o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (dccc 7).

(11)

Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan is-adran (7).

(12)

At ddibenion y Rhan hon, mae “toiledau” yn cynnwys—

(a)

cyfleusterau newid ar gyfer babanod, a

(b)

mannau newid ar gyfer personau anabl.