Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

104Rhwystro etc. cwnstabl neu swyddogLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae unrhyw berson sy’n rhwystro’n fwriadol gwnstabl neu swyddog awdurdodedig sy’n arfer swyddogaethau o dan adrannau 99 i 103 yn cyflawni trosedd.

(2)Mae unrhyw berson sydd, heb achos rhesymol, yn methu—

(a)â darparu i gwnstabl neu swyddog awdurdodedig gyfleusterau y mae’n rhesymol i’r cwnstabl neu’r swyddog awdurdodedig ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu darparu at ddiben gofyniad o dan adran 103(1), neu

(b)â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 103(1)(b) neu (d),

yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 103(5).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 104 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I2A. 104 mewn grym ar 1.2.2018 gan O.S. 2018/1, ergl. 2(a)