RHAN 5RHOI TWLL MEWN RHAN BERSONOL O’R CORFF
Gorfodi
103Pwerau arolygu etc.
(1)
Caiff cwnstabl neu swyddog awdurdodedig sy’n mynd i mewn i fangre o dan adran 99, neu yn rhinwedd gwarant o dan adran 100 neu 101, wneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol os yw’r cwnstabl neu’r swyddog awdurdodedig yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 95 wedi ei chyflawni—
(a)
cynnal arolygiadau ac archwiliadau yn y fangre;
(b)
ei gwneud yn ofynnol cyflwyno unrhyw beth yn y fangre, ei arolygu, a chymryd a chadw samplau ohono neu echdynion ohono;
(c)
cymryd meddiant o unrhyw beth yn y fangre, a’i gadw am gyhyd ag y mae’r cwnstabl neu’r swyddog awdurdodedig yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at y diben hwnnw;
(d)
ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi gwybodaeth, neu ddarparu cyfleusterau a chymorth mewn cysylltiad â materion sydd o fewn rheolaeth y person.
(2)
Os yw cwnstabl neu swyddog awdurdodedig, yn rhinwedd is-adran (1)(c), yn cymryd u unrhyw beth o’r fangre, rhaid i’r cwnstabl neu’r swyddog awdurdodedig adael yn y fangre y cafodd ei gymryd ohoni ddatganiad—
(a)
sy’n rhoi manylion yr hyn sydd wedi ei gymryd ac sy’n datgan bod y cwnstabl neu’r swyddog wedi cymryd meddiant ohono, a
(b)
sy’n nodi’r person y caniateir gofyn iddo i’r eiddo gael ei ddychwelyd.
(3)
Mae’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys y pŵer—
(a)
i gopïo dogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre;
(b)
i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre ac a gedwir yn electronig).
(4)
At y diben hwn, mae “dogfennau” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf; ac mae cyfeiriadau at ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—
(a)
dogfennau a gedwir ar gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre, a
(b)
dogfennau a gedwir yn rhywle arall ac y gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre.
(5)
Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiwn neu gyflwyno unrhyw ddogfen y byddai hawl gan y person i wrthod ei ateb neu wrthod ei chyflwyno mewn achos mewn llys yng Nghymru a Lloegr neu at ddibenion achos o’r fath.