RHAN 5RHOI TWLL MEWN RHAN BERSONOL O’R CORFF
Gorfodi
102Darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediad
(1)
Caiff person sy’n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd adran 99, neu yn rhinwedd gwarant o dan adran 100 neu 101, fynd ag unrhyw bersonau eraill ac unrhyw gyfarpar y mae’r person yn ystyried eu bod yn briodol.
(2)
Os yw meddiannydd mangre y mae person wedi ei awdurdodi i fynd i mewn iddi drwy warant o dan adran 100 neu 101 yn bresennol ar yr adeg y mae’r person yn ceisio gweithredu’r warant—
(a)
rhaid rhoi enw’r person i’r meddiannydd;
(b)
os nad yw’n gwnstabl mewn lifrai, rhaid i’r person gyflwyno i’r meddiannydd dystiolaeth ddogfennol bod y person yn gwnstabl neu’n swyddog awdurdodedig;
(c)
rhaid i’r person gyflwyno’r warant i’r meddiannydd;
(d)
rhaid i’r person gyflenwi copi ohoni i’r meddiannydd.
(3)
Os nad yw mangre y mae person wedi ei awdurdodi i fynd i mewn iddi drwy warant o dan adran 100 neu 101 wedi ei meddiannu, neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, yna wrth adael y fangre rhaid i’r person ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag yr oedd pan aeth y person iddi.