RHAN 5RHOI TWLL MEWN RHAN BERSONOL O’R CORFF

Gorfodi

101Gwarant i fynd i mewn i fangreoedd eraill

(1)

Caiff ynad heddwch arfer y pŵer yn is-adran (2) mewn perthynas â mangre yng Nghymru ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)

bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 95 wedi ei chyflawni,

(b)

ei bod yn angenrheidiol mynd i mewn i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni, ac

(c)

bod gofyniad a nodir yn un neu ragor o is-adrannau (3) i (6) wedi ei fodloni.

(2)

Caiff yr ynad ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi cwnstabl neu swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i’r fangre, drwy rym os oes angen.

(3)

Y gofyniad yw—

(a)

bod gofyn am fynd i mewn i’r fangre wedi ei wrthod neu’n debygol o gael ei wrthod, a

(b)

bod hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan yr adran hon wedi ei roi i’r meddiannydd neu berson yr ymddengys yn rhesymol i’r ynad heddwch ei fod yn ymwneud â rheoli’r fangre.

(4)

Y gofyniad yw bod gofyn am fynd i mewn i’r fangre, neu roi hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan yr adran hon, yn debygol o danseilio diben y mynediad.

(5)

Y gofyniad yw nad yw’r fangre wedi ei meddiannu.

(6)

Y gofyniad yw—

(a)

bod meddiannydd y fangre yn absennol dros dro, a

(b)

bod aros i’r meddiannydd ddychwelyd yn debygol o danseilio diben y mynediad.

(7)

Mae’r warant yn parhau mewn grym tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.