RHAN 3TYBACO A CHYNHYRCHION NICOTIN
PENNOD 1YSMYGU
Mangreoedd di-fwg
10Tir ysgolion
(1)
Mae mangre yng Nghymru yn ddi-fwg at ddibenion y Bennod hon i’r graddau y mae’n dir ysgol.
(2)
Yn achos mangre sy’n dir sy’n cydffinio â’r ysgol o dan sylw, dim ond pan yw’r naill neu’r llall neu’r ddau o’r canlynol yn cael ei ddefnyddio at ddiben addysg neu ofal plant y mae’r fangre yn ddi-fwg yn rhinwedd yr adran hon—
(a)
y tir, neu unrhyw ran o’r tir, neu
(b)
yr ysgol, neu unrhyw ran ohoni.
(3)
Yn achos mangre sy’n dir nad yw’n cydffinio â’r ysgol o dan sylw, dim ond pan yw’r tir, neu unrhyw ran o’r tir, yn cael ei ddefnyddio at ddiben addysg neu ofal plant y mae’r fangre yn ddi-fwg yn rhinwedd yr adran hon.
(4)
Mae tir ysgol, at ddibenion yr adran hon, yn fangre—
(a)
a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf gan yr ysgol, at ddibenion sy’n cynnwys dibenion addysgol, dibenion chwaraeon neu ddibenion hamdden, a
(b)
nad yw’n gaeedig nac yn sylweddol gaeedig.
(5)
Yn achos ysgol sy’n darparu llety preswyl i ddisgyblion, caiff y person a chanddo ofal am yr ysgol ddynodi unrhyw ardal yn y tir yn ardal lle y mae ysmygu i gael ei ganiatáu, ac i’r graddau hynny mae’r fangre i gael ei thrin fel pe na bai’n ddi-fwg at ddibenion y Bennod hon.
(6)
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth—
(a)
sy’n pennu amodau sydd i gael eu bodloni cyn y caniateir i ardal gael ei dynodi o dan is-adran (5),
(b)
sy’n ei gwneud yn ofynnol cadw cofnodion o ddynodiadau, ac
(c)
ynghylch yr amgylchiadau y mae dynodiad i beidio â chael effaith odanynt.
(7)
Nid yw mangre a ddefnyddir i unrhyw raddau fel annedd yn ddi-fwg yn rhinwedd yr adran hon.