RHAN 1TROSOLWG

I11Trosolwg

1

Mae’r Rhan hon o’r Ddeddf yn rhoi trosolwg o brif ddarpariaethau’r Ddeddf.

2

Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer strategaeth genedlaethol ar fynd i’r afael â gordewdra.

3

Mae Rhan 3 yn ymwneud â thybaco a chynhyrchion nicotin. Mae’n—

a

gwneud darpariaeth sy’n cyfyngu ar ysmygu mewn gweithleoedd, mewn mannau cyhoeddus, mewn lleoliadau gofal awyr agored i blant, yn nhir ysgolion, yn nhir ysbytai ac mewn meysydd chwarae cyhoeddus, ac mae’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n cyfyngu ar ysmygu mewn mangreoedd eraill, ac mewn cerbydau;

b

gwneud darpariaeth fel bod cofrestr o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin yng Nghymru;

c

rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n pennu troseddau at ddiben gwneud gorchmynion, mewn cysylltiad â mangreoedd yng Nghymru, sy’n cyfyngu ar werthu drwy fanwerthu dybaco neu gynhyrchion nicotin;

d

ei gwneud yn drosedd i berson roi tybaco, papurau sigaréts neu gynnyrch nicotin i rywun o dan 18 oed nad yw yng nghwmni oedolyn, pan fo’r tybaco (neu’r papurau sigaréts neu’r cynnyrch nicotin) yn cael ei ddanfon neu ei gasglu o dan drefniadau a wneir mewn cysylltiad â’i werthu, a phan na fo’r tybaco (neu’r papurau sigaréts neu’r cynnyrch nicotin) mewn pecyn sydd wedi ei selio ac sydd â chyfeiriad arno.

4

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch trwyddedau ar gyfer rhoi triniaethau arbennig yng Nghymru (fel y’u diffinnir yn adran 57): gweler trosolwg pellach o Ran 4 yn adran 56.

5

Mae Rhan 5 yn ei gwneud yn drosedd i berson yng Nghymru roi twll, neu wneud trefniadau i roi twll, mewn rhan bersonol o gorff person o dan 18 oed; ac mae’n diffinio’r term “rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff” drwy gyfeirio at rannau penodol o’r corff.

6

Mae Rhannau 3 i 5 hefyd yn cynnwys darpariaeth ynghylch gorfodi, gan gynnwys ynghylch troseddau a phwerau mynediad.

7

Mae Rhan 6 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynnal asesiadau o’r effaith ar iechyd.

8

Mae Rhan 7—

a

yn ei gwneud yn ofynnol i bob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru lunio a chyhoeddi asesiad o’r angen am wasanaethau fferyllol yn ei ardal, a rhoi sylw iddo wrth ystyried ceisiadau i gynnwys person neu gofnod mewn cysylltiad â mangre ar ei restr fferyllol;

b

yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch amgylchiadau pan gaiff Bwrdd Iechyd Lleol wahodd ceisiadau i gynnwys person neu gofnod mewn cysylltiad â mangre ar ei restr fferyllol, a phan gaiff dynnu person oddi ar ei restr fferyllol.

9

Mae Rhan 8 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol lunio a chyhoeddi strategaeth toiledau lleol, sy’n asesu’r angen am doiledau cyhoeddus yn ei ardal ac sy’n nodi’r camau y mae’r awdurdod yn bwriadu eu cymryd i ddiwallu’r angen hwnnw.

10

Mae Rhan 8 hefyd yn ailddatgan y pŵer statudol presennol i awdurdod lleol ddarparu toiledau yn ei ardal.

11

Mae Rhan 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch y defnydd o dderbyniadau cosb benodedig mewn cysylltiad â throseddau sgorio hylendid bwyd.

12

Mae Rhan 9 hefyd yn cynnwys darpariaethau cyffredinol, gan gynnwys darpariaethau ynghylch troseddau a gyflawnir gan gyrff corfforaethol, partneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig; ynghylch pwerau i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf; ac ynghylch dwyn darpariaethau’r Ddeddf i rym.