Search Legislation

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 3

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Atodlen yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, ATODLEN 3 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 25 Ebrill 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Schedule 3:

  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2017/949, art. 3 by S.I. 2017/967 art. 2

Rhagolygol

(a gyflwynir gan adran 59)

ATODLEN 3LL+CDARPARIAETH BELLACH MEWN CYSYLLTIAD Â THRWYDDEDAU TRINIAETH ARBENNIG

This schedule has no associated Explanatory Notes

Cais am drwydded triniaeth arbennigLL+C

1Caiff cais i ddyroddi trwydded triniaeth arbennig ymwneud ag un driniaeth arbennig, neu fwy nag un.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

2Mae cais am drwydded sy’n awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi i gael ei wneud⁠—

(a)os yw’r ceisydd yn credu bod y driniaeth yn debygol o gael ei chyflawni gan y ceisydd yn ardal un awdurdod lleol yn unig, i’r awdurdod lleol hwnnw;

(b)os yw’r ceisydd yn credu bod y driniaeth yn debygol o gael ei chyflawni gan y ceisydd yn ardaloedd awdurdodau lleol gwahanol, i un o’r awdurdodau lleol hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

3(1)Rhaid i gais—

(a)pennu â pha driniaeth y mae’n ymwneud;

(b)rhoi pa fanylion bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod y gwneir y cais iddo ynghylch y sail ar gyfer rhoi’r driniaeth (er enghraifft, pa un a yw’r driniaeth i gael ei rhoi ar sail beripatetig, ar sail safle sefydlog, ar sail symudol, ar sail dros dro, neu fel arall);

(c)datgan pa un a yw’n gais am drwydded dros dro ai peidio.

(2)O ran cais—

(a)mae i gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod y gwneir y cais iddo;

(b)mae pa ffi bynnag a osodir gan yr awdurdod i ddod gydag ef.

(3)Yr awdurdod sydd i osod y ffi honno (os oes un) gan roi sylw i’r costau y mae’r awdurdod yn mynd iddynt neu y disgwylir i’r awdurdod fynd iddynt mewn cysylltiad â delio â cheisiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

4(1)Rhaid i gais gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)enw llawn, dyddiad geni a chyfeiriad preswylio arferol y ceisydd;

(b)unrhyw enw masnachu arfaethedig;

(c)rhif ffôn a chyfeiriad e-bost (os oes un) y ceisydd;

(d)yn achos cais i ddyroddi trwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi mewn mangre o fewn adran 59(3) (mangre neu gerbyd a feddiennir neu a reolir gan bersonau penodol, neu sydd o dan eu rheolaeth), cyfeiriad pob un o’r mangreoedd y mae rhoi’r driniaeth i gael ei awdurdodi gan y drwydded;

(e)yn achos cais am drwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi mewn cerbyd o fewn adran 59(3) sydd â rhif cofrestru, rhif cofrestru’r cerbyd;

(f)yn achos cais am drwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi mewn cerbyd o fewn adran 59(3) nad oes ganddo rif cofrestru, pa fanylion adnabod bynnag am y cerbyd y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod yn briodol;

(g)unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw, a gaiff, er enghraifft, gynnwys gwybodaeth am unrhyw drosedd y mae’r ceisydd wedi ei euogfarnu ohoni (pa un a’i cyflawnwyd o dan gyfraith Cymru a Lloegr ai peidio).

(2)Ar unrhyw adeg ar ôl cael cais ond cyn dyfarnu arno, caiff awdurdod ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd ddarparu iddo unrhyw wybodaeth bellach y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol er mwyn ei alluogi i ddyfarnu ar y cais.

(3)Caiff yr wybodaeth bellach honno gynnwys unrhyw wybodaeth y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben gwirio hunaniaeth y ceisydd.

(4)Caiff rheoliadau—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch y ffordd y mae awdurdod lleol i ddyfarnu ar swm y ffi sydd i ddod gyda chais a wneir iddo;

(b)gwneud darpariaeth bellach ynghylch ceisiadau (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, ynghylch y ffordd y mae cais i gael ei wneud, yr wybodaeth sydd i gael ei darparu, a’r ffordd y mae awdurdod i ddelio â chais).

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

Cynnwys trwydded triniaeth arbennigLL+C

5(1)Rhaid i drwydded triniaeth arbennig—

(a)datgan enw deiliad y drwydded;

(b)bod â ffotograff o ddeiliad y drwydded;

(c)pennu cyfeiriad preswyl neu gyfeiriad busnes ar gyfer deiliad y drwydded;

(d)enwi’r awdurdod y dyroddir y drwydded ganddo;

(e)pennu pob triniaeth y mae’r drwydded yn awdurdodi iddi gael ei rhoi;

(f)pennu cyfnod y drwydded ac, yn achos trwydded dros dro, ddatgan ei bod yn drwydded dros dro.

(2)Rhaid i drwydded y mae’n ofynnol iddi, gan adran 59(3), nodi mangre neu gerbyd (yn ôl y digwydd)—

(a)pennu cyfeiriad y fangre;

(b)yn achos cerbyd sydd â rhif cofrestru, ddatgan y rhif cofrestru;

(c)yn achos cerbyd nad oes ganddo rif cofrestru, nodi’r cerbyd ym mha ffordd bynnag y mae’r awdurdod sy’n dyroddi’r drwydded yn ystyried ei bod yn briodol.

(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch ffurf a chynnwys trwyddedau triniaeth arbennig (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, ynghylch cynnwys gwybodaeth am yr amodau trwyddedu mandadol cymwys).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

Copi o’r drwyddedLL+C

6(1)Os yw trwydded triniaeth arbennig wedi mynd ar goll, wedi cael ei dwyn neu wedi cael ei difrodi, caiff deiliad y drwydded wneud cais am gopi i’r awdurdod a ddyroddodd y drwydded.

(2)O ran cais o dan is-baragraff (1)—

(a)mae i gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw, a

(b)mae pa ffi bynnag a osodir gan yr awdurdod i ddod gydag ef.

(3)Rhaid i’r awdurdod ganiatáu’r cais os yw wedi ei fodloni—

(a)bod y drwydded ar goll, wedi ei dwyn neu wedi ei difrodi, a

(b)pan fo’r drwydded ar goll neu wedi ei dwyn, bod yr heddlu wedi ei hysbysu am hyn.

(4)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl caniatáu cais o dan is-baragraff (1), mae awdurdod i ddyroddi copi o’r drwydded i’r ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

7Mae copi o drwydded a ddyroddir gan awdurdod o dan baragraff 6—

(a)i gael ei ardystio gan yr awdurdod fel copi gwir, a

(b)i gael ei drin at ddibenion y Rhan hon ac unrhyw ofynion a osodir gan y Rhan hon neu o dan y Rhan hon fel y drwydded wreiddiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 3 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

Trwydded yn dod i benLL+C

8(1)Mae trwydded triniaeth arbennig i gael ei thrin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n dod i ben â pha un bynnag o’r canlynol sydd gynharaf—

(a)diwedd cyfnod y drwydded;

(b)y dyddiad, pan ddaw i ben, y mae dirymu’r drwydded yn cael effaith;

(c)y dyddiad, pan ddaw i ben, y mae’r drwydded yn peidio â chael effaith o dan baragraff 14(3) (terfynu trwydded yn wirfoddol);

(d)yn achos trwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi gan unigolyn sydd wedi ei ddynodi o dan adran 61 mewn cysylltiad â’r driniaeth honno, y dyddiad y mae tynnu’r dynodiad yn ôl yn cymryd effaith.

(2)Ond mae is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff 10.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 3 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

Adnewyddu trwyddedLL+C

9(1)Caiff awdurdod lleol, ar gais gan ddeiliad y drwydded, adnewyddu trwydded triniaeth arbennig.

(2)Mae cais i adnewyddu trwydded i gael ei wneud i’r awdurdod a roddodd y drwydded.

(3)O ran cais i adnewyddu trwydded—

(a)mae i gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw,

(b)mae i gynnwys pa wybodaeth bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw, ac

(c)mae pa ffi bynnag a osodir gan yr awdurdod i ddod gydag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 3 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

10Os ceir cais i adnewyddu trwydded cyn y byddai’r drwydded oni bai am y paragraff hwn yn cael ei thrin fel pe bai wedi dod i ben, nid yw’r drwydded i gael ei thrin fel pe bai wedi dod i ben—

(a)tra bo’r cais i adnewyddu yn yr arfaeth;

(b)tra caniateir i apêl gael ei dwyn o dan baragraff 18 neu 19 mewn cysylltiad â’r cais;

(c)tra bo apêl a gaiff ei dwyn mewn cysylltiad â’r cais o dan baragraff 18 neu 19, o fewn y cyfnod ar gyfer dwyn apêl o dan y paragraff hwnnw, eto i gael ei phenderfynu.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 3 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

Amrywio trwyddedLL+C

11(1)Caiff awdurdod lleol, ar gais i’r perwyl hwn gan ddeiliad trwydded, amrywio trwydded triniaeth arbennig a ddyroddwyd ganddo.

(2)Caiff effaith amrywiad (ymhlith pethau eraill)—

(a)ychwanegu, diwygio neu ddileu disgrifiad o driniaeth arbennig y mae’r drwydded yn awdurdodi iddi gael ei rhoi;

(b)yn ddarostyngedig i adran 59(4) (gofyniad bod mangre neu gerbyd wedi ei nodi mewn trwydded, ac wedi ei chymeradwyo neu ei gymeradwyo), awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi mewn mangre neu mewn cerbyd nas nodwyd cyn hynny yn y drwydded at y diben hwn;

(c)dileu cyfeiriad at fangre neu gerbyd a nodwyd cyn hynny yn y drwydded.

(3)Ni chaniateir i drwydded gael ei hamrywio o dan y paragraff hwn er mwyn—

(a)trosglwyddo’r drwydded o ddeiliad y drwydded i unigolyn arall;

(b)estyn cyfnod y drwydded.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 3 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

12(1)O ran cais i amrywio trwydded triniaeth arbennig—

(a)mae i gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw, a

(b)mae pa ffi bynnag a osodir gan yr awdurdod i ddod gydag ef.

(2)Rhaid i gais gynnwys—

(a)manylion y newidiadau arfaethedig sydd i gael eu gwneud i’r drwydded, a

(b)unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 3 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

13(1)O ran cais i amrywio trwydded triniaeth arbennig drwy ychwanegu disgrifiad o driniaeth arbennig y mae’r drwydded i awdurdodi iddi gael ei rhoi—

(a)rhaid iddo bennu’r driniaeth o dan sylw, a

(b)mae i gael ei drin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n gais i ddyroddi trwydded triniaeth arbennig sy’n awdurdodi i’r driniaeth honno gael ei rhoi (ac mae dyddiad yr amrywio i gael ei drin, ar gyfer cymhwyso’r Rhan hon mewn cysylltiad â’r driniaeth honno, fel dyddiad dyroddi trwydded sy’n awdurdodi i’r driniaeth gael ei rhoi).

(2)Ond nid yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys at ddibenion dyfarnu ar gyfnod y drwydded.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 3 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

Terfynu trwydded yn wirfoddolLL+C

14(1)Pan fo deiliad trwydded yn dymuno i drwydded triniaeth arbennig beidio â chael effaith, caiff deiliad y drwydded roi hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r awdurdod a ddyroddodd y drwydded.

(2)Rhaid i’r hysbysiad ddatgan y dyddiad y mae’r drwydded i beidio â chael effaith ag ef.

(3)Os nad yw’r drwydded wedi dod i ben yn gynharach o dan baragraff 8(1)(a), (b) neu (d), mae’r drwydded yn peidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a ddatgenir o dan is-baragraff (2) i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 3 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

Yr hawl i gyflwyno sylwadauLL+C

15(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw awdurdod lleol yn bwriadu—

(a)rhoi hysbysiad i geisydd o dan adran 65(2) neu 66(6) fod cais wedi ei wrthod (gan gynnwys o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hynny fel y maent yn gymwys mewn cysylltiad â’r cais yn rhinwedd adran 67 neu baragraff 13(1)(b)),

(b)rhoi hysbysiad i ddeiliad trwydded o dan adran 68 fod trwydded wedi ei dirymu (gan gynnwys o dan yr adran honno fel y mae’n gymwys mewn cysylltiad â’r cais yn rhinwedd adran 67 neu baragraff 13(1)(b)), neu

(c)rhoi hysbysiad i unigolyn o dan adran 61(1), sy’n dynodi’r unigolyn hwnnw mewn cysylltiad â triniaeth arbennig.

(2)Yn y paragraff hwn ac ym mharagraffau 16 a 17, cyfeirir at y ceisydd neu ddeiliad y drwydded fel “A”.

(3)Rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad i A (“hysbysiad rhybuddio”) sy’n nodi’r hyn y mae’r awdurdod yn bwriadu ei wneud a phaham.

(4)Rhaid i hysbysiad rhybuddio ddatgan y caiff A, o fewn cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, naill ai—

(a)cyflwyno sylwadau ynghylch y cynnig, neu

(b)hysbysu’r awdurdod bod A yn dymuno cyflwyno sylwadau.

(5)Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio fod yn llai na 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad.

(6)Caiff yr awdurdod gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio—

(a)os yw A, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio, yn hysbysu’r awdurdod nad yw A yn dymuno cyflwyno sylwadau, neu

(b)os yw’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio yn dod i ben ac nad yw A wedi cyflwyno sylwadau na hysbysu’r awdurdod bod A yn dymuno gwneud hynny.

(7)Os yw A, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio, yn hysbysu’r awdurdod bod A yn dymuno cyflwyno sylwadau—

(a)rhaid i’r awdurdod ganiatáu cyfnod rhesymol pellach i A i gyflwyno sylwadau, a

(b)caiff yr awdurdod gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio, os yw A yn methu â chyflwyno sylwadau o fewn y cyfnod pellach hwnnw.

(8)Os yw A yn cyflwyno sylwadau (naill ai o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio neu o fewn y cyfnod pellach a ganiateir o dan is-baragraff (7)(a)), rhaid i’r awdurdod ystyried y sylwadau.

(9)Caniateir i’r sylwadau a gyflwynir gan A o dan y paragraff hwn gael eu cyflwyno ar lafar neu fel arall; ac yn achos sylwadau ar lafar, caiff A neu gynrychiolydd A eu cyflwyno.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 3 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

Hysbysiad o benderfyniadLL+C

16(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw awdurdod lleol, ar ôl cydymffurfio â gofynion paragraff 15 mewn cysylltiad â hysbysiad arfaethedig o dan adran 65(2), 66(6) neu 68, yn penderfynu cymryd y camau a nodir yn yr hysbysiad rhybuddio.

(2)Rhaid i’r hysbysiad a roddir o dan adran 65, 66 neu 68 (yn ôl y digwydd) nodi rhesymau’r awdurdod dros roi’r hysbysiad.

(3)Rhaid i’r hysbysiad hefyd ddatgan—

(a)y caiff A apelio o dan baragraff 18 yn erbyn y penderfyniad,

(b)y cyfnod y caniateir i apêl gael ei dwyn ynddo, ac

(c)yn achos dirymiad o dan adran 68, y dyddiad (yn absenoldeb apêl o dan baragraff 18) y mae’r dirymiad i gymryd effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 3 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

17Os yw awdurdod lleol, ar ôl cydymffurfio â gofynion paragraff 15, yn penderfynu peidio â chymryd y camau a nodir yn yr hysbysiad rhybuddio, rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad o’r penderfyniad i A.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 3 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

ApelauLL+C

18(1)Caiff ceisydd apelio i lys ynadon yn erbyn—

(a)gwrthod cais am drwydded triniaeth arbennig;

(b)gwrthod cais i amrywio trwydded triniaeth arbennig;

(c)gwrthod cais i adnewyddu trwydded triniaeth arbennig.

(2)Caiff deiliad trwydded apelio i lys ynadon yn erbyn dirymiad o dan adran 68.

(3)Caiff unigolyn y mae hysbysiad wedi ei roi iddo o dan adran 61(1) (dynodi person at ddibenion adran 58) apelio i lys ynadon yn erbyn y penderfyniad i roi’r hysbysiad.

(4)Mae apêl i gael ei gwneud o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad—

(a)yn achos apêl o dan is-baragraff (1) neu (2), yr hysbysiad o’r penderfyniad i wrthod y cais neu o’r penderfyniad i ddirymu;

(b)yn achos apêl o dan is-baragraff (3), yr hysbysiad o dan adran 61(1).

(5)Mae apêl i fod ar ffurf cwyn am orchymyn, ac yn unol â Deddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43).

(6)At ddibenion y terfyn amser ar gyfer gwneud apêl, mae gwneud y gŵyn i gael ei drin fel gwneud yr apêl.

(7)Ar apêl, caiff y llys ynadon—

(a)cadarnhau penderfyniad yr awdurdod lleol yr apelir yn ei erbyn, neu

(b)diddymu neu amrywio’r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn,

a chaiff wneud unrhyw orchymyn o ran costau y mae’n meddwl ei fod yn addas.

(8)Os yw’r llys ynadon yn diddymu neu’n amrywio’r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn, caiff anfon yr achos yn ôl i’r awdurdod lleol i ymdrin ag ef yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan y llys.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 3 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

19(1)Caniateir i apêl gan y naill barti neu’r llall yn erbyn penderfyniad llys ynadon o dan baragraff 18 gael ei dwyn gerbron Llys y Goron.

(2)Ar apêl i Lys y Goron, caiff Llys y Goron—

(a)cadarnhau, amrywio neu wrth-droi penderfyniad y llys ynadon;

(b)anfon yr achos yn ôl i’r llys ynadon neu’r awdurdod lleol i ymdrin ag ef yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Lys y Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 3 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

20(1)Pan fo llys, ar apêl o dan baragraff 18 neu 19, yn amrywio neu’n gwrth-droi penderfyniad awdurdod lleol, caiff y llys orchymyn i’r awdurdod lleol ddigolledu’r ceisydd, deiliad y drwydded, neu berson o fewn paragraff 18(3) (yn ôl y digwydd) am golled a ddioddefwyd o ganlyniad i’r penderfyniad.

(2)Nid yw dwyn apêl o dan baragraff 18 neu 19 mewn cysylltiad â phenderfyniad a wneir gan awdurdod lleol neu hysbysiad a roddir gan awdurdod lleol yn atal dros dro effaith y penderfyniad neu’r hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 3 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

Dirprwyo swyddogaethauLL+C

21(1)Mae swyddogaethau awdurdod lleol o dan y darpariaethau a ganlyn o’r Rhan hon wedi eu dirprwyo, yn rhinwedd yr is-baragraff hwn, i bwyllgor trwyddedu’r awdurdod a sefydlwyd o dan adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17)

(a)adran 65(2) a 66(3) (gan gynnwys fel y’u cymhwysir yn rhinwedd adran 67 a pharagraff 13(1)), mewn achos pan fo sylwadau yn cael eu cyflwyno o dan baragraff 15;

(b)adran 68, mewn achos pan fo sylwadau yn cael eu cyflwyno o dan baragraff 15;

(c)paragraff 15(8);

(d)paragraffau 16 a 17.

(2)Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17) i fod yn gymwys mewn perthynas â swyddogaeth awdurdod a ddirprwyir i bwyllgor trwyddedu yn rhinwedd is-baragraff (1) fel y maent yn gymwys i swyddogaeth a ddirprwyir o dan y Ddeddf honno, ac fel pe bai cyfeiriadau ynddynt at awdurdod trwyddedu yn gyfeiriadau at yr awdurdod o dan sylw—

(a)adran 7(9) (atgyfeirio’n ôl i awdurdod), a

(b)adran 10 (isddirprwyo).

(3)Wrth gymhwyso adran 10(4) o’r Ddeddf honno yn rhinwedd is-baragraff (2), mae’r rhestr o swyddogaethau yn is-baragraff (1)(a) i (d) wedi ei rhoi yn lle’r rhestr o swyddogaethau yn yr adran honno.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y gweithdrefnau sy’n gymwys i bwyllgorau trwyddedu a’u his-bwyllgorau at ddiben arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan hon, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) darpariaeth o ran⁠—

(a)dilysrwydd a chworwm;

(b)mynediad y cyhoedd;

(c)cyhoeddusrwydd;

(d)cofnodion.

(5)Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan y rheoliadau, caiff pob pwyllgor trwyddedu, at ddibenion arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4), reoleiddio ei weithdrefn ei hun a gweithdrefn ei is-bwyllgorau.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 3 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

Diwygiadau canlyniadolLL+C

22(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 13(11) (ystyr “local authority” yn Rhan 8), ym mharagraff (a) ar ôl “district” mewnosoder “in England”.

(3)Yn adran 14 (aciwbigo)—

(a)yn is-adran (1) ar ôl “any area” mewnosoder “in England”, a

(b)yn is-adran (2) ar ôl “any area” mewnosoder “in England”.

(4)Yn adran 15 (tatŵio etc)—

(a)yn is-adran (1) ar ôl “any area” mewnosoder “in England”, a

(b)yn is-adran (2) ar ôl “any area” mewnosoder “in England”.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 3 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

23Yn Neddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (dccc 2), ym mhob tabl yn Atodlen 1 (pwerau i wneud is-ddeddfau) hepgorer y cofnod sy’n ymwneud—

(a)ag adran 14 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30);

(b)ag adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30).

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 3 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources