Rhagolygol
4(1)Rhaid i gais gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)enw llawn, dyddiad geni a chyfeiriad preswylio arferol y ceisydd;
(b)unrhyw enw masnachu arfaethedig;
(c)rhif ffôn a chyfeiriad e-bost (os oes un) y ceisydd;
(d)yn achos cais i ddyroddi trwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi mewn mangre o fewn adran 59(3) (mangre neu gerbyd a feddiennir neu a reolir gan bersonau penodol, neu sydd o dan eu rheolaeth), cyfeiriad pob un o’r mangreoedd y mae rhoi’r driniaeth i gael ei awdurdodi gan y drwydded;
(e)yn achos cais am drwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi mewn cerbyd o fewn adran 59(3) sydd â rhif cofrestru, rhif cofrestru’r cerbyd;
(f)yn achos cais am drwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi mewn cerbyd o fewn adran 59(3) nad oes ganddo rif cofrestru, pa fanylion adnabod bynnag am y cerbyd y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod yn briodol;
(g)unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw, a gaiff, er enghraifft, gynnwys gwybodaeth am unrhyw drosedd y mae’r ceisydd wedi ei euogfarnu ohoni (pa un a’i cyflawnwyd o dan gyfraith Cymru a Lloegr ai peidio).
(2)Ar unrhyw adeg ar ôl cael cais ond cyn dyfarnu arno, caiff awdurdod ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd ddarparu iddo unrhyw wybodaeth bellach y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol er mwyn ei alluogi i ddyfarnu ar y cais.
(3)Caiff yr wybodaeth bellach honno gynnwys unrhyw wybodaeth y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben gwirio hunaniaeth y ceisydd.
(4)Caiff rheoliadau—
(a)gwneud darpariaeth ynghylch y ffordd y mae awdurdod lleol i ddyfarnu ar swm y ffi sydd i ddod gyda chais a wneir iddo;
(b)gwneud darpariaeth bellach ynghylch ceisiadau (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, ynghylch y ffordd y mae cais i gael ei wneud, yr wybodaeth sydd i gael ei darparu, a’r ffordd y mae awdurdod i ddelio â chais).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)