xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
20(1)Pan fo llys, ar apêl o dan baragraff 18 neu 19, yn amrywio neu’n gwrth-droi penderfyniad awdurdod lleol, caiff y llys orchymyn i’r awdurdod lleol ddigolledu’r ceisydd, deiliad y drwydded, neu berson o fewn paragraff 18(3) (yn ôl y digwydd) am golled a ddioddefwyd o ganlyniad i’r penderfyniad.
(2)Nid yw dwyn apêl o dan baragraff 18 neu 19 mewn cysylltiad â phenderfyniad a wneir gan awdurdod lleol neu hysbysiad a roddir gan awdurdod lleol yn atal dros dro effaith y penderfyniad neu’r hysbysiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I2Atod. 3 para. 20 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)
I3Atod. 3 para. 20 mewn grym ar 29.11.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2024/1248, ergl. 2(jj) (ynghyd ag erglau. 4, 5)