ATODLEN 3DARPARIAETH BELLACH MEWN CYSYLLTIAD Â THRWYDDEDAU TRINIAETH ARBENNIG
Yr hawl i gyflwyno sylwadau
15
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw awdurdod lleol yn bwriadu—
(a)
rhoi hysbysiad i geisydd o dan adran 65(2) neu 66(6) fod cais wedi ei wrthod (gan gynnwys o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hynny fel y maent yn gymwys mewn cysylltiad â’r cais yn rhinwedd adran 67 neu baragraff 13(1)(b)),
(b)
rhoi hysbysiad i ddeiliad trwydded o dan adran 68 fod trwydded wedi ei dirymu (gan gynnwys o dan yr adran honno fel y mae’n gymwys mewn cysylltiad â’r cais yn rhinwedd adran 67 neu baragraff 13(1)(b)), neu
(c)
rhoi hysbysiad i unigolyn o dan adran 61(1), sy’n dynodi’r unigolyn hwnnw mewn cysylltiad â triniaeth arbennig.
(2)
Yn y paragraff hwn ac ym mharagraffau 16 a 17, cyfeirir at y ceisydd neu ddeiliad y drwydded fel “A”.
(3)
Rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad i A (“hysbysiad rhybuddio”) sy’n nodi’r hyn y mae’r awdurdod yn bwriadu ei wneud a phaham.
(4)
Rhaid i hysbysiad rhybuddio ddatgan y caiff A, o fewn cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, naill ai—
(a)
cyflwyno sylwadau ynghylch y cynnig, neu
(b)
hysbysu’r awdurdod bod A yn dymuno cyflwyno sylwadau.
(5)
Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio fod yn llai na 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad.
(6)
Caiff yr awdurdod gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio—
(a)
os yw A, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio, yn hysbysu’r awdurdod nad yw A yn dymuno cyflwyno sylwadau, neu
(b)
os yw’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio yn dod i ben ac nad yw A wedi cyflwyno sylwadau na hysbysu’r awdurdod bod A yn dymuno gwneud hynny.
(7)
Os yw A, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio, yn hysbysu’r awdurdod bod A yn dymuno cyflwyno sylwadau—
(a)
rhaid i’r awdurdod ganiatáu cyfnod rhesymol pellach i A i gyflwyno sylwadau, a
(b)
caiff yr awdurdod gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio, os yw A yn methu â chyflwyno sylwadau o fewn y cyfnod pellach hwnnw.
(8)
Os yw A yn cyflwyno sylwadau (naill ai o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio neu o fewn y cyfnod pellach a ganiateir o dan is-baragraff (7)(a)), rhaid i’r awdurdod ystyried y sylwadau.
(9)
Caniateir i’r sylwadau a gyflwynir gan A o dan y paragraff hwn gael eu cyflwyno ar lafar neu fel arall; ac yn achos sylwadau ar lafar, caiff A neu gynrychiolydd A eu cyflwyno.