xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 3LL+CDARPARIAETH BELLACH MEWN CYSYLLTIAD Â THRWYDDEDAU TRINIAETH ARBENNIG

Terfynu trwydded yn wirfoddolLL+C

14(1)Pan fo deiliad trwydded yn dymuno i drwydded triniaeth arbennig beidio â chael effaith, caiff deiliad y drwydded roi hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r awdurdod a ddyroddodd y drwydded.

(2)Rhaid i’r hysbysiad ddatgan y dyddiad y mae’r drwydded i beidio â chael effaith ag ef.

(3)Os nad yw’r drwydded wedi dod i ben yn gynharach o dan baragraff 8(1)(a), (b) neu (d), mae’r drwydded yn peidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a ddatgenir o dan is-baragraff (2) i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I2Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

I3Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 29.11.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2024/1248, ergl. 2(jj) (ynghyd ag erglau. 4, 5)