xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Valid from 31/05/2018

Valid from 13/09/2024

ATODLEN 3LL+CDARPARIAETH BELLACH MEWN CYSYLLTIAD Â THRWYDDEDAU TRINIAETH ARBENNIG

Amrywio trwyddedLL+C

12(1)O ran cais i amrywio trwydded triniaeth arbennig—

(a)mae i gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw, a

(b)mae pa ffi bynnag a osodir gan yr awdurdod i ddod gydag ef.

(2)Rhaid i gais gynnwys—

(a)manylion y newidiadau arfaethedig sydd i gael eu gwneud i’r drwydded, a

(b)unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)