ATODLEN 3DARPARIAETH BELLACH MEWN CYSYLLTIAD Â THRWYDDEDAU TRINIAETH ARBENNIG
Cais am drwydded triniaeth arbennig
1
Caiff cais i ddyroddi trwydded triniaeth arbennig ymwneud ag un driniaeth arbennig, neu fwy nag un.
2
Mae cais am drwydded sy’n awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi i gael ei wneud—
(a)
os yw’r ceisydd yn credu bod y driniaeth yn debygol o gael ei chyflawni gan y ceisydd yn ardal un awdurdod lleol yn unig, i’r awdurdod lleol hwnnw;
(b)
os yw’r ceisydd yn credu bod y driniaeth yn debygol o gael ei chyflawni gan y ceisydd yn ardaloedd awdurdodau lleol gwahanol, i un o’r awdurdodau lleol hynny.
3
(1)
Rhaid i gais—
(a)
pennu â pha driniaeth y mae’n ymwneud;
(b)
rhoi pa fanylion bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod y gwneir y cais iddo ynghylch y sail ar gyfer rhoi’r driniaeth (er enghraifft, pa un a yw’r driniaeth i gael ei rhoi ar sail beripatetig, ar sail safle sefydlog, ar sail symudol, ar sail dros dro, neu fel arall);
(c)
datgan pa un a yw’n gais am drwydded dros dro ai peidio.
(2)
O ran cais—
(a)
mae i gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod y gwneir y cais iddo;
(b)
mae pa ffi bynnag a osodir gan yr awdurdod i ddod gydag ef.
(3)
Yr awdurdod sydd i osod y ffi honno (os oes un) gan roi sylw i’r costau y mae’r awdurdod yn mynd iddynt neu y disgwylir i’r awdurdod fynd iddynt mewn cysylltiad â delio â cheisiadau.
4
(1)
Rhaid i gais gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)
enw llawn, dyddiad geni a chyfeiriad preswylio arferol y ceisydd;
(b)
unrhyw enw masnachu arfaethedig;
(c)
rhif ffôn a chyfeiriad e-bost (os oes un) y ceisydd;
(d)
yn achos cais i ddyroddi trwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi mewn mangre o fewn adran 59(3) (mangre neu gerbyd a feddiennir neu a reolir gan bersonau penodol, neu sydd o dan eu rheolaeth), cyfeiriad pob un o’r mangreoedd y mae rhoi’r driniaeth i gael ei awdurdodi gan y drwydded;
(e)
yn achos cais am drwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi mewn cerbyd o fewn adran 59(3) sydd â rhif cofrestru, rhif cofrestru’r cerbyd;
(f)
yn achos cais am drwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi mewn cerbyd o fewn adran 59(3) nad oes ganddo rif cofrestru, pa fanylion adnabod bynnag am y cerbyd y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod yn briodol;
(g)
unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw, a gaiff, er enghraifft, gynnwys gwybodaeth am unrhyw drosedd y mae’r ceisydd wedi ei euogfarnu ohoni (pa un a’i cyflawnwyd o dan gyfraith Cymru a Lloegr ai peidio).
(2)
Ar unrhyw adeg ar ôl cael cais ond cyn dyfarnu arno, caiff awdurdod ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd ddarparu iddo unrhyw wybodaeth bellach y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol er mwyn ei alluogi i ddyfarnu ar y cais.
(3)
Caiff yr wybodaeth bellach honno gynnwys unrhyw wybodaeth y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben gwirio hunaniaeth y ceisydd.
(4)
Caiff rheoliadau—
(a)
gwneud darpariaeth ynghylch y ffordd y mae awdurdod lleol i ddyfarnu ar swm y ffi sydd i ddod gyda chais a wneir iddo;
(b)
gwneud darpariaeth bellach ynghylch ceisiadau (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, ynghylch y ffordd y mae cais i gael ei wneud, yr wybodaeth sydd i gael ei darparu, a’r ffordd y mae awdurdod i ddelio â chais).
Cynnwys trwydded triniaeth arbennig
5
(1)
Rhaid i drwydded triniaeth arbennig—
(a)
datgan enw deiliad y drwydded;
(b)
bod â ffotograff o ddeiliad y drwydded;
(c)
pennu cyfeiriad preswyl neu gyfeiriad busnes ar gyfer deiliad y drwydded;
(d)
enwi’r awdurdod y dyroddir y drwydded ganddo;
(e)
pennu pob triniaeth y mae’r drwydded yn awdurdodi iddi gael ei rhoi;
(f)
pennu cyfnod y drwydded ac, yn achos trwydded dros dro, ddatgan ei bod yn drwydded dros dro.
(2)
Rhaid i drwydded y mae’n ofynnol iddi, gan adran 59(3), nodi mangre neu gerbyd (yn ôl y digwydd)—
(a)
pennu cyfeiriad y fangre;
(b)
yn achos cerbyd sydd â rhif cofrestru, ddatgan y rhif cofrestru;
(c)
yn achos cerbyd nad oes ganddo rif cofrestru, nodi’r cerbyd ym mha ffordd bynnag y mae’r awdurdod sy’n dyroddi’r drwydded yn ystyried ei bod yn briodol.
(3)
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch ffurf a chynnwys trwyddedau triniaeth arbennig (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, ynghylch cynnwys gwybodaeth am yr amodau trwyddedu mandadol cymwys).
Copi o’r drwydded
6
(1)
Os yw trwydded triniaeth arbennig wedi mynd ar goll, wedi cael ei dwyn neu wedi cael ei difrodi, caiff deiliad y drwydded wneud cais am gopi i’r awdurdod a ddyroddodd y drwydded.
(2)
O ran cais o dan is-baragraff (1)—
(a)
mae i gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw, a
(b)
mae pa ffi bynnag a osodir gan yr awdurdod i ddod gydag ef.
(3)
Rhaid i’r awdurdod ganiatáu’r cais os yw wedi ei fodloni—
(a)
bod y drwydded ar goll, wedi ei dwyn neu wedi ei difrodi, a
(b)
pan fo’r drwydded ar goll neu wedi ei dwyn, bod yr heddlu wedi ei hysbysu am hyn.
(4)
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl caniatáu cais o dan is-baragraff (1), mae awdurdod i ddyroddi copi o’r drwydded i’r ceisydd.
7
Mae copi o drwydded a ddyroddir gan awdurdod o dan baragraff 6—
(a)
i gael ei ardystio gan yr awdurdod fel copi gwir, a
(b)
i gael ei drin at ddibenion y Rhan hon ac unrhyw ofynion a osodir gan y Rhan hon neu o dan y Rhan hon fel y drwydded wreiddiol.
Trwydded yn dod i ben
8
(1)
Mae trwydded triniaeth arbennig i gael ei thrin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n dod i ben â pha un bynnag o’r canlynol sydd gynharaf—
(a)
diwedd cyfnod y drwydded;
(b)
y dyddiad, pan ddaw i ben, y mae dirymu’r drwydded yn cael effaith;
(c)
y dyddiad, pan ddaw i ben, y mae’r drwydded yn peidio â chael effaith o dan baragraff 14(3) (terfynu trwydded yn wirfoddol);
(d)
yn achos trwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi gan unigolyn sydd wedi ei ddynodi o dan adran 61 mewn cysylltiad â’r driniaeth honno, y dyddiad y mae tynnu’r dynodiad yn ôl yn cymryd effaith.
(2)
Ond mae is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff 10.
Adnewyddu trwydded
9
(1)
Caiff awdurdod lleol, ar gais gan ddeiliad y drwydded, adnewyddu trwydded triniaeth arbennig.
(2)
Mae cais i adnewyddu trwydded i gael ei wneud i’r awdurdod a roddodd y drwydded.
(3)
O ran cais i adnewyddu trwydded—
(a)
mae i gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw,
(b)
mae i gynnwys pa wybodaeth bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw, ac
(c)
mae pa ffi bynnag a osodir gan yr awdurdod i ddod gydag ef.
10
Os ceir cais i adnewyddu trwydded cyn y byddai’r drwydded oni bai am y paragraff hwn yn cael ei thrin fel pe bai wedi dod i ben, nid yw’r drwydded i gael ei thrin fel pe bai wedi dod i ben—
(a)
tra bo’r cais i adnewyddu yn yr arfaeth;
(b)
tra caniateir i apêl gael ei dwyn o dan baragraff 18 neu 19 mewn cysylltiad â’r cais;
(c)
tra bo apêl a gaiff ei dwyn mewn cysylltiad â’r cais o dan baragraff 18 neu 19, o fewn y cyfnod ar gyfer dwyn apêl o dan y paragraff hwnnw, eto i gael ei phenderfynu.
Amrywio trwydded
11
(1)
Caiff awdurdod lleol, ar gais i’r perwyl hwn gan ddeiliad trwydded, amrywio trwydded triniaeth arbennig a ddyroddwyd ganddo.
(2)
Caiff effaith amrywiad (ymhlith pethau eraill)—
(a)
ychwanegu, diwygio neu ddileu disgrifiad o driniaeth arbennig y mae’r drwydded yn awdurdodi iddi gael ei rhoi;
(b)
yn ddarostyngedig i adran 59(4) (gofyniad bod mangre neu gerbyd wedi ei nodi mewn trwydded, ac wedi ei chymeradwyo neu ei gymeradwyo), awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi mewn mangre neu mewn cerbyd nas nodwyd cyn hynny yn y drwydded at y diben hwn;
(c)
dileu cyfeiriad at fangre neu gerbyd a nodwyd cyn hynny yn y drwydded.
(3)
Ni chaniateir i drwydded gael ei hamrywio o dan y paragraff hwn er mwyn—
(a)
trosglwyddo’r drwydded o ddeiliad y drwydded i unigolyn arall;
(b)
estyn cyfnod y drwydded.
12
(1)
O ran cais i amrywio trwydded triniaeth arbennig—
(a)
mae i gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw, a
(b)
mae pa ffi bynnag a osodir gan yr awdurdod i ddod gydag ef.
(2)
Rhaid i gais gynnwys—
(a)
manylion y newidiadau arfaethedig sydd i gael eu gwneud i’r drwydded, a
(b)
unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw.
13
(1)
O ran cais i amrywio trwydded triniaeth arbennig drwy ychwanegu disgrifiad o driniaeth arbennig y mae’r drwydded i awdurdodi iddi gael ei rhoi—
(a)
rhaid iddo bennu’r driniaeth o dan sylw, a
(b)
mae i gael ei drin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n gais i ddyroddi trwydded triniaeth arbennig sy’n awdurdodi i’r driniaeth honno gael ei rhoi (ac mae dyddiad yr amrywio i gael ei drin, ar gyfer cymhwyso’r Rhan hon mewn cysylltiad â’r driniaeth honno, fel dyddiad dyroddi trwydded sy’n awdurdodi i’r driniaeth gael ei rhoi).
(2)
Ond nid yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys at ddibenion dyfarnu ar gyfnod y drwydded.
Terfynu trwydded yn wirfoddol
14
(1)
Pan fo deiliad trwydded yn dymuno i drwydded triniaeth arbennig beidio â chael effaith, caiff deiliad y drwydded roi hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r awdurdod a ddyroddodd y drwydded.
(2)
Rhaid i’r hysbysiad ddatgan y dyddiad y mae’r drwydded i beidio â chael effaith ag ef.
(3)
Os nad yw’r drwydded wedi dod i ben yn gynharach o dan baragraff 8(1)(a), (b) neu (d), mae’r drwydded yn peidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a ddatgenir o dan is-baragraff (2) i ben.
Yr hawl i gyflwyno sylwadau
15
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw awdurdod lleol yn bwriadu—
(a)
rhoi hysbysiad i geisydd o dan adran 65(2) neu 66(6) fod cais wedi ei wrthod (gan gynnwys o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hynny fel y maent yn gymwys mewn cysylltiad â’r cais yn rhinwedd adran 67 neu baragraff 13(1)(b)),
(b)
rhoi hysbysiad i ddeiliad trwydded o dan adran 68 fod trwydded wedi ei dirymu (gan gynnwys o dan yr adran honno fel y mae’n gymwys mewn cysylltiad â’r cais yn rhinwedd adran 67 neu baragraff 13(1)(b)), neu
(c)
rhoi hysbysiad i unigolyn o dan adran 61(1), sy’n dynodi’r unigolyn hwnnw mewn cysylltiad â triniaeth arbennig.
(2)
Yn y paragraff hwn ac ym mharagraffau 16 a 17, cyfeirir at y ceisydd neu ddeiliad y drwydded fel “A”.
(3)
Rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad i A (“hysbysiad rhybuddio”) sy’n nodi’r hyn y mae’r awdurdod yn bwriadu ei wneud a phaham.
(4)
Rhaid i hysbysiad rhybuddio ddatgan y caiff A, o fewn cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, naill ai—
(a)
cyflwyno sylwadau ynghylch y cynnig, neu
(b)
hysbysu’r awdurdod bod A yn dymuno cyflwyno sylwadau.
(5)
Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio fod yn llai na 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad.
(6)
Caiff yr awdurdod gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio—
(a)
os yw A, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio, yn hysbysu’r awdurdod nad yw A yn dymuno cyflwyno sylwadau, neu
(b)
os yw’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio yn dod i ben ac nad yw A wedi cyflwyno sylwadau na hysbysu’r awdurdod bod A yn dymuno gwneud hynny.
(7)
Os yw A, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio, yn hysbysu’r awdurdod bod A yn dymuno cyflwyno sylwadau—
(a)
rhaid i’r awdurdod ganiatáu cyfnod rhesymol pellach i A i gyflwyno sylwadau, a
(b)
caiff yr awdurdod gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio, os yw A yn methu â chyflwyno sylwadau o fewn y cyfnod pellach hwnnw.
(8)
Os yw A yn cyflwyno sylwadau (naill ai o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio neu o fewn y cyfnod pellach a ganiateir o dan is-baragraff (7)(a)), rhaid i’r awdurdod ystyried y sylwadau.
(9)
Caniateir i’r sylwadau a gyflwynir gan A o dan y paragraff hwn gael eu cyflwyno ar lafar neu fel arall; ac yn achos sylwadau ar lafar, caiff A neu gynrychiolydd A eu cyflwyno.
Hysbysiad o benderfyniad
16
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw awdurdod lleol, ar ôl cydymffurfio â gofynion paragraff 15 mewn cysylltiad â hysbysiad arfaethedig o dan adran 65(2), 66(6) neu 68, yn penderfynu cymryd y camau a nodir yn yr hysbysiad rhybuddio.
(2)
Rhaid i’r hysbysiad a roddir o dan adran 65, 66 neu 68 (yn ôl y digwydd) nodi rhesymau’r awdurdod dros roi’r hysbysiad.
(3)
Rhaid i’r hysbysiad hefyd ddatgan—
(a)
y caiff A apelio o dan baragraff 18 yn erbyn y penderfyniad,
(b)
y cyfnod y caniateir i apêl gael ei dwyn ynddo, ac
(c)
yn achos dirymiad o dan adran 68, y dyddiad (yn absenoldeb apêl o dan baragraff 18) y mae’r dirymiad i gymryd effaith.
17
Os yw awdurdod lleol, ar ôl cydymffurfio â gofynion paragraff 15, yn penderfynu peidio â chymryd y camau a nodir yn yr hysbysiad rhybuddio, rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad o’r penderfyniad i A.
Apelau
18
(1)
Caiff ceisydd apelio i lys ynadon yn erbyn—
(a)
gwrthod cais am drwydded triniaeth arbennig;
(b)
gwrthod cais i amrywio trwydded triniaeth arbennig;
(c)
gwrthod cais i adnewyddu trwydded triniaeth arbennig.
(2)
Caiff deiliad trwydded apelio i lys ynadon yn erbyn dirymiad o dan adran 68.
(3)
Caiff unigolyn y mae hysbysiad wedi ei roi iddo o dan adran 61(1) (dynodi person at ddibenion adran 58) apelio i lys ynadon yn erbyn y penderfyniad i roi’r hysbysiad.
(4)
Mae apêl i gael ei gwneud o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad—
(a)
yn achos apêl o dan is-baragraff (1) neu (2), yr hysbysiad o’r penderfyniad i wrthod y cais neu o’r penderfyniad i ddirymu;
(b)
yn achos apêl o dan is-baragraff (3), yr hysbysiad o dan adran 61(1).
(5)
Mae apêl i fod ar ffurf cwyn am orchymyn, ac yn unol â Deddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43).
(6)
At ddibenion y terfyn amser ar gyfer gwneud apêl, mae gwneud y gŵyn i gael ei drin fel gwneud yr apêl.
(7)
Ar apêl, caiff y llys ynadon—
(a)
cadarnhau penderfyniad yr awdurdod lleol yr apelir yn ei erbyn, neu
(b)
diddymu neu amrywio’r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn,
a chaiff wneud unrhyw orchymyn o ran costau y mae’n meddwl ei fod yn addas.
(8)
Os yw’r llys ynadon yn diddymu neu’n amrywio’r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn, caiff anfon yr achos yn ôl i’r awdurdod lleol i ymdrin ag ef yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan y llys.
19
(1)
Caniateir i apêl gan y naill barti neu’r llall yn erbyn penderfyniad llys ynadon o dan baragraff 18 gael ei dwyn gerbron Llys y Goron.
(2)
Ar apêl i Lys y Goron, caiff Llys y Goron—
(a)
cadarnhau, amrywio neu wrth-droi penderfyniad y llys ynadon;
(b)
anfon yr achos yn ôl i’r llys ynadon neu’r awdurdod lleol i ymdrin ag ef yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Lys y Goron.
20
(1)
Pan fo llys, ar apêl o dan baragraff 18 neu 19, yn amrywio neu’n gwrth-droi penderfyniad awdurdod lleol, caiff y llys orchymyn i’r awdurdod lleol ddigolledu’r ceisydd, deiliad y drwydded, neu berson o fewn paragraff 18(3) (yn ôl y digwydd) am golled a ddioddefwyd o ganlyniad i’r penderfyniad.
(2)
Nid yw dwyn apêl o dan baragraff 18 neu 19 mewn cysylltiad â phenderfyniad a wneir gan awdurdod lleol neu hysbysiad a roddir gan awdurdod lleol yn atal dros dro effaith y penderfyniad neu’r hysbysiad.
Dirprwyo swyddogaethau
21
(1)
Mae swyddogaethau awdurdod lleol o dan y darpariaethau a ganlyn o’r Rhan hon wedi eu dirprwyo, yn rhinwedd yr is-baragraff hwn, i bwyllgor trwyddedu’r awdurdod a sefydlwyd o dan adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17)—
(a)
adran 65(2) a 66(3) (gan gynnwys fel y’u cymhwysir yn rhinwedd adran 67 a pharagraff 13(1)), mewn achos pan fo sylwadau yn cael eu cyflwyno o dan baragraff 15;
(b)
adran 68, mewn achos pan fo sylwadau yn cael eu cyflwyno o dan baragraff 15;
(c)
paragraff 15(8);
(d)
paragraffau 16 a 17.
(2)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17) i fod yn gymwys mewn perthynas â swyddogaeth awdurdod a ddirprwyir i bwyllgor trwyddedu yn rhinwedd is-baragraff (1) fel y maent yn gymwys i swyddogaeth a ddirprwyir o dan y Ddeddf honno, ac fel pe bai cyfeiriadau ynddynt at awdurdod trwyddedu yn gyfeiriadau at yr awdurdod o dan sylw—
(a)
adran 7(9) (atgyfeirio’n ôl i awdurdod), a
(b)
adran 10 (isddirprwyo).
(3)
Wrth gymhwyso adran 10(4) o’r Ddeddf honno yn rhinwedd is-baragraff (2), mae’r rhestr o swyddogaethau yn is-baragraff (1)(a) i (d) wedi ei rhoi yn lle’r rhestr o swyddogaethau yn yr adran honno.
(4)
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y gweithdrefnau sy’n gymwys i bwyllgorau trwyddedu a’u his-bwyllgorau at ddiben arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan hon, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) darpariaeth o ran—
(a)
dilysrwydd a chworwm;
(b)
mynediad y cyhoedd;
(c)
cyhoeddusrwydd;
(d)
cofnodion.
(5)
Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan y rheoliadau, caiff pob pwyllgor trwyddedu, at ddibenion arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4), reoleiddio ei weithdrefn ei hun a gweithdrefn ei is-bwyllgorau.
Diwygiadau canlyniadol
22
(1)
Mae Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 13(11) (ystyr “local authority” yn Rhan 8), ym mharagraff (a) ar ôl “district” mewnosoder “in England”.
(3)
Yn adran 14 (aciwbigo)—
(a)
yn is-adran (1) ar ôl “any area” mewnosoder “in England”, a
(b)
yn is-adran (2) ar ôl “any area” mewnosoder “in England”.
(4)
Yn adran 15 (tatŵio etc)—
(a)
yn is-adran (1) ar ôl “any area” mewnosoder “in England”, a
(b)
yn is-adran (2) ar ôl “any area” mewnosoder “in England”.
23
Yn Neddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (dccc 2), ym mhob tabl yn Atodlen 1 (pwerau i wneud is-ddeddfau) hepgorer y cofnod sy’n ymwneud—
(a)
ag adran 14 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30);
(b)
ag adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30).