xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Valid from 29/09/2020

ATODLEN 1LL+CCOSBAU PENODEDIG

Tynnu hysbysiadau yn ôlLL+C

17(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw awdurdod dyroddi yn ystyried na ddylai hysbysiad cosb benodedig y mae swyddog awdurdodedig sy’n gweithredu ar ei ran wedi ei roi i berson (“P”) fod wedi cael ei roi.

(2)Caiff yr awdurdod dyroddi roi hysbysiad i P sy’n tynnu’r hysbysiad cosb benodedig yn ôl.

(3)Os yw’n gwneud hynny—

(a)rhaid iddo ad-dalu unrhyw swm sydd wedi ei dalu ar ffurf cosb yn unol â’r hysbysiad cosb benodedig, a

(b)ni chaniateir dwyn achos na pharhau ag achos yn erbyn P am y drosedd o dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)