RHAN 8DARPARU TOILEDAU
Strategaethau toiledau lleol
I1I7113Strategaethau toiledau lleol: llunio ac adolygu
1
Rhaid i awdurdod lleol lunio a chyhoeddi strategaeth toiledau lleol cyn diwedd y cyfnod o un flwyddyn sy’n dechrau â’r dyddiad y daw’r adran hon i rym.
2
Rhaid i strategaeth toiledau lleol gynnwys—
a
asesiad o’r angen i doiledau yn ardal yr awdurdod lleol fod ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio,
b
datganiad sy’n nodi’r camau y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu cymryd i ddiwallu’r angen hwnnw, ac
c
unrhyw wybodaeth arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn briodol.
3
Rhaid i awdurdod lleol gynnal adolygiad o’i strategaeth toiledau lleol ar ôl pob etholiad cyffredin a gynhelir ar gyfer ei ardal o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70); a rhaid i bob adolygiad gael ei gynnal cyn diwedd y cyfnod o un flwyddyn sy’n dechrau â dyddiad yr etholiad.
4
Caiff awdurdod lleol, yn ychwanegol at adolygiad sy’n ofynnol gan is-adran (3), gynnal adolygiadau eraill o’i strategaeth toiledau lleol.
5
Pan yw awdurdod leol yn adolygu ei strategaeth toiledau lleol, rhaid iddo gyhoeddi datganiad o’r camau y mae wedi eu cymryd yn unol â’r strategaeth yn ystod y cyfnod—
a
sy’n dechrau â’r dyddiad y cyhoeddwyd y strategaeth ddiwethaf, a
b
sy’n dod i ben â’r dyddiad y dechreuodd yr adolygiad hwnnw.
6
Pan yw awdurdod lleol yn adolygu ei strategaeth toiledau lleol ac yn ystyried bod angen ei newid, rhaid iddo—
a
diwygio’r strategaeth, a
b
cyhoeddi’r strategaeth ddiwygiedig.
7
Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch y materion y dylent eu hystyried wrth—
a
llunio strategaeth toiledau lleol,
b
adolygu strategaeth toiledau lleol,
c
ymgynghori ar strategaeth toiledau lleol o dan adran 115, neu
d
cyhoeddi strategaeth toiledau lleol.
8
Rhaid i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (7) wneud darpariaeth ynghylch—
a
yr asesiad o’r angen—
i
i doiledau fod ar gael i ddefnyddwyr priffyrdd a llwybrau teithio llesol eu defnyddio;
ii
i doiledau fod ar gael i’w defnyddio gan ddefnyddwyr safleoedd a chyfleusterau eraill sydd, gan roi sylw i feini prawf a nodir yn y canllawiau, yn gyfleusterau o arwyddocâd penodol ar gyfer trafnidiaeth;
iii
i doiledau fod ar gael i’w defnyddio yng nghyffiniau safleoedd ac mewn cysylltiad â digwyddiadau sydd, gan roi sylw i feini prawf a nodir yn y canllawiau, o arwyddocâd penodol neu o ddiddordeb diwylliannol, o ddiddordeb o ran chwaraeon neu o ddiddordeb hanesyddol, poblogaidd neu genedlaethol;
iv
i doiledau sydd mewn mangreoedd sy’n cael eu cyllido’n gyhoeddus (pa un ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol) fod ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio,
b
hybu ymwybyddiaeth gyhoeddus o doiledau sydd ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio, ac
c
cydweithredu rhwng awdurdodau lleol.
9
Yn is-adran (8) mae i “priffordd” yr ystyr a roddir i “highway” gan adran 328 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p.66).
10
At ddibenion is-adran (8), mae llwybr yn llwybr teithio llesol os y’i dangosir fel llwybr teithio llesol ar y map a luniwyd yn fwyaf diweddar gan awdurdod lleol o dan adran 3 o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (dccc 7).
11
Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan is-adran (7).
12
At ddibenion y Rhan hon, mae “toiledau” yn cynnwys—
a
cyfleusterau newid ar gyfer babanod, a
b
mannau newid ar gyfer personau anabl.
I2I8114Strategaethau toiledau lleol: datganiad cynnydd interim
1
Rhaid i awdurdod lleol sydd wedi cyhoeddi strategaeth toiledau lleol o dan adran 113 (pa un ai yn unol ag adolygiad o’r strategaeth, neu fel arall) lunio a chyhoeddi datganiad cynnydd interim yn unol â’r adran hon.
2
Rhaid i awdurdod lleol sydd wedi adolygu ei strategaeth toiledau lleol o dan adran 113(3), ond nad yw wedi ei diwygio, lunio a chyhoeddi datganiad cynnydd interim yn unol â’r adran hon.
3
Mae datganiad cynnydd interim yn ddatganiad o’r camau y mae’r awdurdod wedi eu cymryd yn unol â’i strategaeth toiledau lleol yn ystod y cyfnod (“cyfnod y datganiad”) o 2 flynedd sy’n dechrau â’r dyddiad—
a
y cyhoeddwyd y strategaeth honno ddiwethaf gan yr awdurdod, yn achos gofyniad a osodir gan is-adran (1);
b
yr adolygwyd y strategaeth honno ddiwethaf gan yr awdurdod, yn achos gofyniad a osodir gan is-adran (2).
4
Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei ddatganiad cynnydd interim heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl diwrnod olaf cyfnod y datganiad.
5
Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch y materion y dylent eu hystyried wrth lunio datganiad cynnydd interim; a rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr is-adran hon.
I3I9115Strategaethau toiledau lleol: ymgynghori
1
Rhaid i awdurdod lleol ymgynghori ag unrhyw berson y mae’n ystyried ei fod yn debygol o fod â buddiant yn y ddarpariaeth o doiledau yn ei ardal sydd ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio cyn iddo gyhoeddi ei strategaeth toiledau lleol o dan—
a
adran 113(1), neu
b
adran 113(6)(b).
2
Fel rhan o’r ymgynghori, rhaid i’r awdurdod lleol roi strategaeth toiledau lleol ddrafft ar gael i bob person yr ymgynghorir ag ef o dan is-adran (1).
Pŵer awdurdod lleol i ddarparu toiledau cyhoeddus
I4I10116Pŵer awdurdod lleol i ddarparu toiledau cyhoeddus
1
Caiff awdurdod lleol ddarparu toiledau yn ei ardal i’r cyhoedd eu defnyddio.
2
Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i’r strategaeth toiledau lleol berthnasol wrth benderfynu—
a
pa un ai i ddarparu toiledau o dan is-adran (1), a
b
ar y mathau o doiledau sydd i gael eu darparu.
3
At ddibenion is-adran (2), y strategaeth toiledau lleol berthnasol yw—
a
yn achos cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol (“prif gyngor”), y strategaeth toiledau lleol a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan adran 113 gan y cyngor hwnnw, a
b
yn achos cyngor cymuned, y strategaeth toiledau lleol a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan adran 113 gan brif gyngor yr ardal lle y mae’r cyngor cymuned.
4
Ni chaiff awdurdod lleol ddarparu toiledau o dan is-adran (1) ar neu o dan dir sy’n cydffinio â phriffordd neu briffordd arfaethedig, neu yng nghyffiniau priffordd o’r fath, oni bai—
a
mai’r awdurdod lleol yw’r awdurdod priffyrdd (neu yn achos priffordd arfaethedig, mai’r awdurdod lleol fydd yr awdurdod priffyrdd) ar gyfer y briffordd honno, neu
b
bod yr awdurdod lleol wedi cael cydsyniad yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd honno, neu (yn achos priffordd arfaethedig) yr awdurdod a fydd yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd honno, i ddarparu toiledau o’r fath.
5
Caiff awdurdod lleol sy’n darparu toiledau o dan yr adran hon godi ffioedd am ddefnyddio’r toiledau hynny.
6
Yn yr adran hon—
mae “awdurdod lleol” (“local authority”) yn cynnwys cyngor cymuned;
mae i “priffordd” yr ystyr a roddir i “highway” gan adran 113(9).
I5I11117Pŵer i wneud is-ddeddfau mewn perthynas â thoiledau
1
Caiff awdurdod lleol sy’n darparu toiledau o dan adran 116 wneud is-ddeddfau o ran ymddygiad personau sy’n eu defnyddio neu sy’n mynd i mewn iddynt.
2
Pan fo cyngor cymuned yn gwneud is-ddeddfau o dan is-adran (1) mewn cysylltiad â thoiledau a ddarperir ganddo, nid yw’r is-ddeddfau (os oes rhai) a wneir o dan adran 2 o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (dccc 2), mewn perthynas â’r toiledau hynny gan gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yr ardal lle y mae’r cyngor cymuned, yn cael unrhyw effaith yn ystod y cyfnod y mae’r is-ddeddfau a wneir gan y cyngor cymuned mewn grym.
3
At ddibenion yr adran hon, mae “awdurdod lleol” i gael ei ddarllen yn unol ag adran 116.
I6I12118Diwygiadau canlyniadol
Am ddiwygiadau o ganlyniad i’r Rhan hon, gweler Atodlen 4.