Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

GorfodiLL+C

18Awdurdodau gorfodiLL+C

(1)Mae pob awdurdod lleol wedi ei awdurdodi i weithredu fel awdurdod gorfodi mewn perthynas â mangreoedd, mannau a cherbydau sydd yn ei ardal.

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth i brif swyddog heddlu ardal heddlu, yn ogystal, gael ei awdurdodi i weithredu fel awdurdod gorfodi mewn perthynas â cherbydau sydd yn yr ardal heddlu honno.

(3)Rhaid i awdurdod gorfodi orfodi darpariaethau’r Bennod hon a rheoliadau a wneir odani o ran y mangreoedd, y mannau a’r cerbydau y mae, yn rhinwedd yr adran hon, wedi ei awdurdodi i weithredu mewn perthynas â hwy.

(4)Caiff awdurdod gorfodi wneud trefniadau ag awdurdod gorfodi arall i achos y mae’n delio ag ef drwy arfer ei swyddogaethau at ddibenion y Bennod hon gael ei drosglwyddo (neu ei drosglwyddo ymhellach, neu ei drosglwyddo yn ôl) i’r awdurdod arall hwnnw ac i’r awdurdod arall hwnnw ei gymryd drosodd.

(5)Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at swyddog awdurdodedig yn gyfeiriadau at unrhyw berson (pa un a yw’n swyddog i’r awdurdod gorfodi ai peidio) sydd wedi ei awdurdodi gan awdurdod gorfodi at ddibenion y Bennod hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I2A. 18 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(e)

I3A. 18 mewn grym ar 1.3.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/202, ergl. 2

19Pwerau mynediadLL+C

(1)Caiff swyddog awdurdodedig fynd i mewn i fangre yng Nghymru ar unrhyw adeg resymol—

(a)os oes gan y swyddog seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 5, 6 neu 17 wedi ei chyflawni yn y fangre, a

(b)os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i mewn i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni.

(2)Ond nid yw hyn yn gymwys mewn perthynas â mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd.

(3)Ni chaiff swyddog awdurdodedig fynd i mewn i fangre drwy rym o dan yr adran hon.

(4)Rhaid i swyddog awdurdodedig, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o’r awdurdodiad y cyfeirir ato yn adran 18(5) cyn mynd i mewn i fangre o dan yr adran hon.

(5)Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I5A. 19 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

20Gwarant i fynd i mewn i anneddLL+C

(1)Caiff ynad heddwch arfer y pŵer yn is-adran (2) mewn perthynas â mangre yng Nghymru a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 5 neu 6 wedi ei chyflawni yn y fangre, a

(b)ei bod yn angenrheidiol mynd i mewn i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni.

(2)Caiff yr ynad ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i’r fangre, drwy rym os oes angen.

(3)Mae’r warant yn parhau mewn grym tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.

(4)Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I7A. 20 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

21Gwarant i fynd i mewn i fangreoedd eraillLL+C

(1)Caiff ynad heddwch arfer y pŵer yn is-adran (2) mewn perthynas â mangre yng Nghymru ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 5, 6 neu 17 wedi ei chyflawni yn y fangre,

(b)ei bod yn angenrheidiol mynd i mewn i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni, ac

(c)bod gofyniad a nodir yn is-adran (3) neu (4) wedi ei fodloni.

(2)Caiff yr ynad ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i’r fangre, drwy rym os oes angen.

(3)Y gofyniad yw—

(a)bod gofyn am fynd i mewn i’r fangre wedi ei wrthod neu’n debygol o gael ei wrthod, a

(b)bod hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan yr adran hon wedi ei roi i’r meddiannydd neu berson yr ymddengys yn rhesymol i’r awdurdod gorfodi ei fod yn ymwneud â rheoli’r fangre.

(4)Y gofyniad yw bod gofyn am fynd i mewn i’r fangre, neu roi hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan yr adran hon, yn debygol o danseilio diben y mynediad.

(5)Mae’r warant yn parhau mewn grym tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.

(6)Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I9A. 21 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

22Darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediadLL+C

(1)Caiff swyddog awdurdodedig sy’n mynd i mewn i fangre o dan adran 19, neu yn rhinwedd gwarant o dan adran 20 neu 21, fynd ag unrhyw bersonau eraill ac unrhyw gyfarpar y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn briodol.

(2)Os yw meddiannydd mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd i mewn iddi drwy warant o dan adran 20 neu 21 yn bresennol ar yr adeg y mae’r swyddog awdurdodedig yn ceisio gweithredu’r warant—

(a)rhaid rhoi enw’r swyddog i’r meddiannydd;

(b)rhaid i’r swyddog gyflwyno i’r meddiannydd dystiolaeth ddogfennol bod y swyddog yn swyddog awdurdodedig;

(c)rhaid i’r swyddog gyflwyno’r warant i’r meddiannydd;

(d)rhaid i’r swyddog gyflenwi copi ohoni i’r meddiannydd.

(3)Os nad yw mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd i mewn iddi drwy warant o dan adran 20 neu 21 wedi ei meddiannu, neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, yna wrth adael y fangre rhaid i’r swyddog ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.

(4)Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I11A. 22 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

23Pwerau arolygu etc.LL+C

(1)Caiff swyddog awdurdodedig sy’n mynd i mewn i fangre o dan adran 19, neu yn rhinwedd gwarant o dan adran 20 neu 21, wneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 5, 6 neu 17 wedi ei chyflawni—

(a)cynnal arolygiadau ac archwiliadau yn y fangre;

(b)ei gwneud yn ofynnol cyflwyno unrhyw beth yn y fangre, ei arolygu, a chymryd a chadw samplau ohono neu echdynion ohono;

(c)cymryd meddiant o unrhyw beth yn y fangre, a’i gadw am gyhyd ag y mae’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at y diben hwnnw;

(d)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi gwybodaeth, neu ddarparu cyfleusterau a chymorth mewn cysylltiad â materion sydd o fewn rheolaeth y person.

(2)Os yw’r swyddog awdurdodedig yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 5, 6 neu 17 wedi ei chyflawni, caiff y swyddog drefnu i unrhyw beth a gyflwynir o dan is-adran (1)(b), neu y mae’r swyddog wedi cymryd meddiant ohono o dan is-adran (1)(c), gael ei ddadansoddi.

(3)Os yw’r swyddog awdurdodedig, yn rhinwedd is-adran (1)(c), yn cymryd unrhyw beth o’r fangre, rhaid i’r swyddog adael yn y fangre y cafodd ei gymryd ohoni ddatganiad—

(a)sy’n rhoi manylion yr hyn sydd wedi ei gymryd ac sy’n datgan bod y swyddog wedi cymryd meddiant ohono, a

(b)sy’n nodi’r person y caniateir gofyn iddo i’r eiddo gael ei ddychwelyd.

(4)Mae’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys y pŵer—

(a)i gopïo dogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre;

(b)i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre ac a gedwir yn electronig).

(5)At y diben hwn, mae “dogfennau” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf; ac mae cyfeiriadau at ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—

(a)dogfennau a gedwir ar gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre, a

(b)dogfennau a gedwir yn rhywle arall ac y gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre.

(6)Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.

(7)Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiwn neu gyflwyno unrhyw ddogfen y byddai hawl gan y person i wrthod ei ateb neu wrthod ei chyflwyno mewn achos mewn llys yng Nghymru a Lloegr neu at ddibenion achos o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I13A. 23 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

24Rhwystro etc. swyddogionLL+C

(1)Mae unrhyw berson sy’n rhwystro’n fwriadol swyddog awdurdodedig sy’n arfer swyddogaethau o dan adrannau 19 i 23 yn cyflawni trosedd.

(2)Mae unrhyw berson sydd, heb achos rhesymol, yn methu—

(a)â darparu i swyddog awdurdodedig gyfleusterau y mae’n rhesymol i’r swyddog awdurdodedig ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu darparu at ddiben gofyniad o dan adran 23(1), neu

(b)â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 23(1)(b) neu (d),

yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 23(7).

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I15A. 24 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

25Eiddo a gedwir: apelauLL+C

(1)Caiff person (“P”) a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth yr eir ymaith ag ef o dan adran 23(1)(c) (“eiddo a gedwir”) wneud cais drwy gŵyn i unrhyw lys ynadon am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei ryddhau, naill ai i P neu i berson arall.

(2)Os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni nad yw’n angenrheidiol parhau i gadw’r eiddo a gedwir at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 5, 6 neu 17 wedi ei chyflawni, caiff wneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r eiddo a gedwir gael ei ryddhau.

(3)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon gynnwys pa ddarpariaeth bynnag y mae’r llys yn meddwl ei bod yn briodol er mwyn gohirio ei ddwyn i rym wrth aros i apêl (gan gynnwys cais o dan adran 111 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43)) gael ei gwneud a dyfarnu arni.

(4)Os yw’r llys yn gohirio gwrandawiad cais o dan yr adran hon, caiff wneud gorchymyn mewn cysylltiad â’r eiddo a gedwir sy’n para tan wrandawiad terfynol y cais neu hyd nes y gwneir unrhyw orchymyn pellach, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

(5)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n effeithio ar unrhyw bŵer arall sydd gan y llys i wneud gorchymyn mewn cysylltiad â’r eiddo a gedwir, gan gynnwys unrhyw bŵer i wneud gorchymyn o dan adran 1 o Ddeddf yr Heddlu (Eiddo) 1897 (p.30).

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I17A. 25 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

26Eiddo a gyfeddir: digolleduLL+C

(1)Caiff person (“P”) a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth y mae swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi wedi cymryd meddiant ohono o dan adran 23(1)(c)(“eiddo a gyfeddir”) wneud cais drwy gŵyn i unrhyw lys ynadon i gael ei ddigolledu.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni—

(a)bod P wedi dioddef colled neu ddifrod oherwydd bod y swyddog awdurdodedig wedi cymryd meddiant o’r eiddo a gyfeddir, neu ei gadw, o dan amgylchiadau pan nad oedd yn angenrheidiol gwneud hynny at ddiben canfod a oedd trosedd o dan adran 5, 6 neu 17 wedi ei chyflawni, a

(b)na ellir priodoli’r golled neu’r difrod i esgeulustod neu ddiffyg P.

(3)Caiff y llys orchymyn i’r awdurdod gorfodi ddigolledu P.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I19A. 26 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

27Hysbysiadau cosb benodedigLL+C

(1)Pan fo gan swyddog awdurdodedig reswm dros gredu bod person wedi cyflawni y naill neu’r llall o’r troseddau a ganlyn mewn mangre, man neu gerbyd y mae’r awdurdod gorfodi wedi ei awdurdodi i weithredu mewn perthynas â hi neu mewn perthynas ag ef⁠—

(a)trosedd o dan adran 5(1);

(b)trosedd o dan adran 17(5),

caiff y swyddog roi i’r person hwnnw hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â’r drosedd.

(2)Pan fo gan swyddog awdurdodedig reswm dros gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan adran 6(6) mewn perthynas â cherbyd sy’n cael ei ddefnyddio at y dibenion a grybwyllir yn is-adran (4), y mae’r awdurdod gorfodi wedi ei awdurdodi i weithredu mewn perthynas ag ef, caiff y swyddog roi i’r person hwnnw hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â’r drosedd.

(3)Mae hysbysiad cosb benodedig yn hysbysiad sy’n cynnig y cyfle i berson i gael ei ryddhau o fod yn agored i euogfarn am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi drwy dalu cosb benodedig.

(4)Y dibenion yw dibenion cymdeithasol, domestig neu ddibenion preifat eraill y person y mae’r swyddog awdurdodedig yn credu ei fod wedi cyflawni’r drosedd.

(5)Yn achos trosedd y mae gan swyddog awdurdodedig reswm dros gredu ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth, mae’r cyfeiriadau yn is-adrannau (1) a (2) at y person y caniateir rhoi hysbysiad cosb benodedig iddo i gael eu trin fel cyfeiriadau at y bartneriaeth.

(6)Yn achos trosedd y mae gan swyddog awdurdodedig reswm dros gredu ei bod wedi ei chyflawni gan gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, mae’r cyfeiriadau yn is-adrannau (1) a (2) at y person y caniateir rhoi hysbysiad cosb benodedig iddo i gael eu trin fel cyfeiriadau at y gymdeithas.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “partneriaeth” yw—

(a)partneriaeth o fewn Deddf Partneriaeth 1890 (p.39), neu

(b)partneriaeth gyfyngedig sydd wedi ei chofrestru o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907 (p.24).

(8)Am ddarpariaeth bellach ynghylch cosbau penodedig, gweler Atodlen 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I21A. 27 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(f)

I22A. 27 mewn grym ar 1.3.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/202, ergl. 2