Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 8.Darparu Toiledau

Adran 113 - Strategaethau toiledau lleol: llunio ac adolygu

240.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i lunio a chyhoeddi strategaeth toiledau lleol ar gyfer ei ardal.

241.Rhaid i strategaeth awdurdod gynnwys asesiad o’r angen am doiledau, gan gynnwys cyfleusterau newid ar gyfer babanod a mannau newid ar gyfer pobl anabl, yn ei ardal i’r cyhoedd eu defnyddio. Bydd y strategaeth hefyd yn nodi sut y mae’r awdurdod yn bwriadu diwallu’r anghenion hynny. Bydd y strategaeth hefyd yn cynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn briodol.

242.Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei strategaeth gyntaf heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl cychwyn yr adran hon. Yn dilyn cyhoeddi’r strategaeth gyntaf, caiff awdurdod adolygu ei strategaeth ar unrhyw adeg, ond rhaid iddo ei hadolygu heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl pob etholiad cyffredin o gynghorwyr i’r awdurdod.

243.Pan fo awdurdod lleol yn cynnal adolygiad, rhaid iddo gyhoeddi datganiad o’r camau y mae wedi eu cymryd yn unol â’i strategaeth ar gyfer y cyfnod rhwng y dyddiad diwethaf y cyhoeddwyd y strategaeth a dyddiad yr adolygiad. Os yw awdurdod lleol yn ystyried, wrth adolygu ei strategaeth, fod angen newid, rhaid iddo wneud y newidiadau a chyhoeddi ei strategaeth ddiwygiedig.

244.Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch y materion y dylent roi ystyriaeth iddynt wrth lunio strategaeth toiledau lleol, adolygu strategaeth toiledau lleol, ymgynghori ar strategaeth toiledau lleol neu gyhoeddi strategaeth toiledau lleol. Rhaid i’r canllawiau gwmpasu nifer o faterion penodol gan gynnwys asesu’r angen am doiledau gan ddefnyddwyr priffyrdd a llwybrau teithio llesol, a chydweithredu rhwng awdurdodau lleol.

Adran 114 - Strategaethau toiledau lleol: datganiad cynnydd interim

245.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol sydd wedi cyhoeddi strategaeth toiledau lleol, neu sydd wedi cynnal adolygiad mandadol o strategaeth, i lunio a chyhoeddi datganiad cynnydd interim.

246.Bydd pob datganiad cynnydd interim yn adolygu’r cynnydd a wnaed gan awdurdod wrth roi ei strategaeth ar waith yn ystod cyfnod o ddwy flynedd, a ddiffinnir gan is-adran (3) fel “cyfnod y datganiad”.

247.Mewn achos pan nad yw’r strategaeth ddiweddaraf a gyhoeddwyd gan awdurdod wedi cael ei hadolygu o dan adran 113, bydd cyfnod y datganiad yn dechrau ar y dyddiad cyhoeddi. Yn achos y datganiad cynnydd interim cyntaf i gael ei lunio, bydd cyfnod dwy flynedd y datganiad yn dechrau o ddyddiad cyhoeddi’r strategaeth gyntaf, oni bai bod y strategaeth yn cael ei diwygio cyn diwedd y cyfnod dwy flynedd. Yn yr achos hwnnw, bydd cyfnod dwy flynedd y datganiad yn dechrau eto o dyddiad cyhoeddi’r strategaeth ddiwygiedig. Byddai dyddiad cyhoeddi unrhyw strategaeth ddiwygiedig ar ôl hyn – pa un ai yn dilyn adolygiad mandadol neu’n dilyn adolygiad y mae awdurdod yn dewis ei gynnal – yn nodi dechrau cyfnod datganiad arall.

248.Yn achos adolygiad mandadol o strategaeth mae cyfnod y datganiad yn dechrau ar y dyddiad yr adolygwyd y strategaeth honno ddiwethaf gan yr awdurdod lleol.

249.Rhaid i awdurdod gyhoeddi datganiad cynnydd interim heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl diwrnod olaf cyfnod y datganiad sy’n berthnasol.

250.Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch y materion y dylent eu hystyried wrth lunio datganiad cynnydd interim.

Adran 115 - Strategaethau toiledau lleol: ymgynghori

251.Mae’r adran hon yn nodi’r hyn y mae rhaid i awdurdod lleol ei wneud o ran ymgynghori cyn cyhoeddi ei strategaeth toiledau lleol neu ei strategaeth ddiwygiedig.

252.Nid yw’r adran hon yn pennu categorïau o bobl y dylai awdurdod lleol ymgynghori â hwy. Mater i bob awdurdod lleol fydd penderfynu pwy, yn ei farn ef, sy’n debygol o fod â buddiant yn y ddarpariaeth o doiledau lleol. Yn yr un modd, nid yw’r amserlen ar gyfer ymgynghori na’r dulliau i’w defnyddio wedi eu pennu. Mater i awdurdod lleol fydd penderfynu ar yr amserlen ar gyfer ymgynghori effeithiol a’r dull ymgynghori priodol i’w ddefnyddio i drin a thrafod â’r rheini sydd â buddiant yn y ddarpariaeth o doiledau lleol, gan roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 113.

Adran 116 - Pŵer awdurdod lleol i ddarparu toiledau cyhoeddus

253.Mae’r adran hon yn darparu y caiff awdurdodau lleol yng Nghymru ddarparu toiledau cyhoeddus mewn unrhyw ran o’u hardaloedd. Mae’n ailddatgan y pwerau a roddwyd gynt i awdurdodau lleol o dan adran 87 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 mewn perthynas â darparu toiledau cyhoeddus a’r pŵer i godi tâl am ddefnyddio’r toiledau a ddarperir ganddynt.

254.Yn yr adran hon, ac yn wahanol i adrannau blaenorol, mae’r term “awdurdod lleol” yn cynnwys cynghorau cymuned. Wrth benderfynu pa un ai i ddarparu toiledau, ble y mae toiledau i gael eu darparu, neu benderfynu ar y math o doiledau i’w darparu, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i’r strategaeth toiledau lleol sydd yn ei lle ar gyfer ei ardal. Yn achos cyngor cymuned, y strategaeth toiledau berthnasol fydd strategaeth y cyngor ar gyfer y sir neu’r fwrdeistref sirol lle y mae’r gymuned. Caiff awdurdod lleol godi ffi am ddefnyddio’r toiledau y mae’n eu darparu o dan yr adran hon.

255.Os yw toiledau i fod ar neu o dan dir sy’n cydffinio â phriffordd neu briffordd arfaethedig, neu yng nghyffiniau priffordd o’r fath, rhaid i’r awdurdod priffyrdd perthnasol gydsynio i’r toiledau gael eu darparu. Mewn rhai achosion, yr awdurdod lleol fydd yr awdurdod priffyrdd, felly ni fydd cydsyniad yn ofynnol. Mae i’r diffiniad o ”priffordd” yn yr adran hon yr un ystyr ag a roddir i “highway” yn adran 328 o Ddeddf Priffyrdd 1980; mae’r diffiniad hwn yn cynnwys pontydd mewn achosion pan fo priffordd yn mynd dros bont a thwnelau mewn achosion pan fo priffordd yn mynd drwy dwnnel.

Adran 117 - Pŵer i wneud is-ddeddfau mewn perthynas â thoiledau

256.Mae is-adran (1) yn galluogi awdurdod lleol sy’n darparu toiledau i wneud is-ddeddfau mewn perthynas ag ymddygiad personau sy’n defnyddio’r toiledau neu’n mynd i mewn iddynt. Fel yn adran 116 uchod, mae hyn yn ailddatgan y pŵer a roddwyd gynt i awdurdodau lleol o dan adran 87 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 i wneud is-ddeddfau o’r fath.

257.Mae “awdurdod lleol” yn yr adran hon yn cynnwys cyngor cymuned. Os yw cyngor cymuned yn gwneud is-ddeddfau o’r fath, ni fydd unrhyw is-ddeddfau perthnasol a wneir gan gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol o dan adran 2 o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 mewn perthynas â’r toiledau yn gymwys cyhyd ag y bydd is-ddeddfau’r cyngor cymuned perthnasol yn parhau mewn grym.

Adran 118 - Diwygiadau canlyniadol

258.Mae’r adran hon yn rhoi effaith i Atodlen 4, sy’n gwneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â darparu toiledau. Gweler Atodlen 4 isod am ragor o wybodaeth.