Adran 97 - Camau gorfodi gan awdurdodau lleol
195.Mae’r adran hon yn galluogi awdurdod lleol i ymgymryd â chamau gorfodi mewn perthynas â’r Rhan hon o’r Ddeddf. Caiff awdurdod lleol:
dwyn erlyniadau mewn cysylltiad â throseddau o dan adran 95;
ymchwilio i gwynion mewn perthynas â throseddau honedig o dan adran 95;
cymryd camau eraill gyda golwg ar ostwng nifer y troseddau sy’n digwydd yn ei ardal. Caiff y rhain gynnwys camau gweithredu megis cyfathrebu ag ymarferwyr tyllu’r corff a’u haddysgu, neu ymgymryd ag arolygiadau pryniannau prawf i asesu cydymffurfedd.
196.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ystyried o leiaf unwaith bob 12 mis raglen o gamau gorfodi er mwyn atal y troseddau o ran rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff a nodir yn adran 95. Rhaid i awdurdod lleol hefyd gynnal rhaglen o gamau gorfodi o’r fath i’r graddau y mae’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny. Caiff y camau gorfodi hyn gynnwys unrhyw un neu ragor neu bob un o’r camau y cyfeirir atynt yn is-adran (1).
197.Wrth ymgymryd â’i gamau gorfodi, rhaid i awdurdod lleol gynnal unrhyw ymgynghoriad y mae’n ystyried ei fod yn briodol â’r heddlu.