Atodlen 2 - Ysmygu: diwygiadau canlyniadol
271.Mae Atodlen 2 yn gwneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas ag ysmygu. Mae’r diwygiadau hyn yn:
Datgymhwyso Pennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Iechyd 2006 o ran Cymru oherwydd bod Pennod 1 o Ran 3 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn ailddatgan y darpariaethau hynny o ran Cymru. Mae Pennod 1 o Ddeddf Iechyd 2006 yn parhau mewn grym o ran Lloegr; a
Diwygio adran 91 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014, sy’n addasu adran 9 o Ddeddf Iechyd 2006 ac Atodlen 1 iddi. Mae’r diwygiad yn mewnosod paragraff newydd yn is-adran (5)(c) o adran 91 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014. Mae hyn yn cynnal pwerau Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i bennu ffurf hysbysiadau cosb benodedig mewn perthynas â throsedd o dan yr adran honno (mewn perthynas â’r drosedd o brynu neu geisio prynu tybaco i berson o dan 18 oed).