Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

Trosolwg Cyffredinol O’R Ddeddf

6.Mae’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau mewn nifer o feysydd polisi arwahanol, a nod pob un ohonynt yw ymdrin â heriau cyfoes i iechyd a llesiant yng Nghymru.

7.Yn y Ddeddf ceir 127 o adrannau (mewn 9 Rhan) a 4 Atodlen.

  • Rhan 1 – Trosolwg

  • Mae Rhan 2 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi ac adolygu strategaeth genedlaethol ar atal gordewdra a lleihau lefelau gordewdra yng Nghymru.

  • Rhan 3 – Tybaco a Chynhyrchion Nicotin

    • Mae Pennod 1 yn cyfyngu ar ysmygu mewn gweithleoedd caeedig a sylweddol gaeedig a mannau cyhoeddus, ac mewn lleoliadau gofal awyr agored i blant, yn nhir ysgolion, yn nhir ysbytai ac mewn meysydd chwarae cyhoeddus. Mae hefyd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i ehangu’r cyfyngiadau i fangreoedd eraill, ac i gerbydau;

    • Mae Pennod 2 yn sefydlu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin;

    • Mae Pennod 3 yn rhoi i Weinidogion Cymru bŵer i wneud rheoliadau i ychwanegu at y troseddau sy’n cyfrannu at Orchymyn Mangre o dan Gyfyngiad yng Nghymru;

    • Mae Pennod 4 yn gwahardd rhoi tybaco neu gynhyrchion nicotin (pan fyddant yn cael eu danfon neu eu casglu mewn cysylltiad â’u gwerthu) i berson o dan 18 oed sydd ar ei ben ei hun;

  • Mae Rhan 4 yn darparu ar gyfer creu cynllun trwyddedu mandadol i unigolion sy’n rhoi ‘triniaethau arbennig’ penodedig, sef aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a thatŵio;

  • Mae Rhan 5 yn cyflwyno gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o gorff personau o dan 18 oed;

  • Mae Rhan 6 yn cynnwys darpariaethau ynghylch cynnal asesiadau o’r effaith ar iechyd gan gyrff cyhoeddus;

  • Mae Rhan 7 yn newid y trefniadau ar gyfer dyfarnu ar geisiadau ar gyfer cynnwys cofnod ar restr fferyllol Bwrdd Iechyd Lleol, i system sy’n seiliedig ar anghenion wedi eu hasesu o safbwynt cymunedau lleol;

  • Mae Rhan 8 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio strategaeth toiledau lleol er mwyn cynllunio sut y byddant yn diwallu anghenion eu cymunedau o ran cael mynediad at doiledau i’r cyhoedd eu defnyddio; ac

  • Mae Rhan 9 yn cynnwys darpariaethau amrywiol ynghylch y defnydd o dderbyniadau cosb benodedig mewn cysylltiad â throseddau sgorio hylendid bwyd, a nifer o ddarpariaethau cyffredinol, gan gynnwys mewn perthynas â rheoliadau, dehongli, pwerau i wneud darpariaethau canlyniadol a throsiannol, a threfniadau dod i rym.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources