xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CY DRETH A’R PRIF GYSYNIADAU

PENNOD 2LL+CTRAFODIADAU TIR

8Trafodiadau cysylltiolLL+C

(1)At ddibenion y Ddeddf hon, mae trafodiad tir yn drafodiad cysylltiol os yw’n un o nifer o drafodiadau tir sy’n ffurfio rhan o un cynllun, trefniant neu gyfres o drafodiadau rhwng yr un gwerthwr a phrynwr neu, yn y naill achos neu’r llall, bersonau sy’n gysylltiedig â hwy.

(2)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 16 (cyfnewidiadau; gweler yn benodol is-adran (1) o’r adran honno sy’n darparu nad yw trafodiadau sy’n ffurfio cyfnewidiad i’w trin fel trafodiadau cysylltiol).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2A. 8 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3