RHAN 2Y DRETH A’R PRIF GYSYNIADAU

PENNOD 2TRAFODIADAU TIR

I1I28Trafodiadau cysylltiol

1

At ddibenion y Ddeddf hon, mae trafodiad tir yn drafodiad cysylltiol os yw’n un o nifer o drafodiadau tir sy’n ffurfio rhan o un cynllun, trefniant neu gyfres o drafodiadau rhwng yr un gwerthwr a phrynwr neu, yn y naill achos neu’r llall, bersonau sy’n gysylltiedig â hwy.

2

Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 16 (cyfnewidiadau; gweler yn benodol is-adran (1) o’r adran honno sy’n darparu nad yw trafodiadau sy’n ffurfio cyfnewidiad i’w trin fel trafodiadau cysylltiol).