RHAN 6FFURFLENNI TRETH A THALIADAU
PENNOD 4COFRESTRU TRAFODIADAU TIR
65Cofrestru trafodiadau tir
(1)
Ni chaiff y Prif Gofrestrydd Tir (“y Cofrestrydd”) gofrestru, gofnodi na dangos fel arall mewn cofnod a wneir yn y gofrestr teitlau a gedwir gan y Cofrestrydd drafodiad tir hysbysadwy na dogfen sy’n rhoi effaith i drafodiad o’r fath neu sy’n dystiolaeth ohono oni bai y cyflwynir tystysgrif ACC gyda’r cais i gofrestru, i gofnodi neu i ddangos y trafodiad fel arall.
(2)
Tystysgrif a ddyroddir gan ACC yw “tystysgrif ACC”, sy’n datgan bod ffurflen dreth wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â’r trafodiad.
(3)
Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys i’r graddau—
(a)
y mae’n ofynnol cofrestru, cofnodi neu ddangos fel arall y trafodiad tir hysbysadwy neu ddogfen sy’n rhoi effaith i’r trafodiad hwnnw neu sy’n dystiolaeth ohono mewn cofnod a wneir yn y gofrestr teitlau heb unrhyw gais i gofrestru;
(b)
y mae’r cofnod yn cofrestru, yn cofnodi neu’n dangos fel arall fuddiant neu hawl ar wahân i’r buddiant trethadwy y mae’r prynwr yn y trafodiad tir yn ei gaffael.
(4)
Nid yw’r adran hon yn gymwys—
(a)
i gontract sydd i’w drin fel trafodiad tir yn rhinwedd—
(i)
adran 10(4) (contract a throsglwyddo), neu
(ii)
adran 11(3) (contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti);
(b)
trafodiad tybiannol neu drafodiad tybiannol ychwanegol o fewn yr ystyr a roddir yn Atodlen 2;
(c)
cytundeb ar gyfer les sydd i’w drin fel trafodiad tir yn rhinwedd paragraff 20(1) o Atodlen 6;
(d)
amrywiad i les sydd i’w drin fel trafodiad tir yn rhinwedd paragraff 24(1) neu 25(1) o’r Atodlen honno.
(5)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch tystysgrifau ACC.
(6)
Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (5), yn benodol—
(a)
gwneud darpariaeth o ran yr amodau y mae’n rhaid eu bodloni cyn dyroddi tystysgrif;
(b)
gwneud darpariaeth ynghylch dyroddi tystysgrifau dyblyg;
(c)
darparu ar gyfer dyroddi tystysgrifau lluosog pan ddychwelir ffurflen dreth sy’n ymwneud â mwy nag un trafodiad.
(7)
O ran y Cofrestrydd—
(a)
rhaid iddo ganiatáu i ACC archwilio unrhyw dystysgrifau a gyflwynir o dan yr adran hon, a
(b)
caiff ymrwymo i drefniadau ar gyfer rhoi gwybodaeth arall a chyfleusterau eraill i ACC er mwyn gwirio y cydymffurfiwyd â gofynion y Ddeddf hon.