(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)gwneud darpariaeth i ohirio treth mewn achosion pan fo’r gydnabyddiaeth ohiriedig ar ffurf rhent (o fewn yr ystyr a roddir yn Atodlen 6);
(b)gwneud darpariaeth sy’n cymhwyso’r Bennod hon (gydag unrhyw addasiadau a bennir yn y rheoliadau) i achosion pa fo’r gydnabyddiaeth y mae cais gohirio yn ymwneud â hi, neu unrhyw elfen o’r gydnabyddiaeth honno, ar ffurf—
(i)gwneud gwaith adeiladu, gwella neu atgyweirio adeilad neu waith arall i gynyddu gwerth tir, neu
(ii)darparu gwasanaethau (ac eithrio cyflawni gwaith o’r faith);
(c)gwneud darpariaeth i ACC wneud amrywiadau o dan adran 62 heb i’r prynwr roi hysbysiad am gais o dan is-adran (1) o’r adran honno (boed drwy gytundeb gyda’r prynwr neu drwy orfodaeth).
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud unrhyw addasiadau i’r Ddeddf hon ag y bo Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn angenrheidiol neu’n hwylus.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2A. 64 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3