RHAN 6FFURFLENNI TRETH A THALIADAU

PENNOD 3GOHIRIO TRETH

64Rheoliadau ynghylch gohirio treth

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)

gwneud darpariaeth i ohirio treth mewn achosion pan fo’r gydnabyddiaeth ohiriedig ar ffurf rhent (o fewn yr ystyr a roddir yn Atodlen 6);

(b)

gwneud darpariaeth sy’n cymhwyso’r Bennod hon (gydag unrhyw addasiadau a bennir yn y rheoliadau) i achosion pa fo’r gydnabyddiaeth y mae cais gohirio yn ymwneud â hi, neu unrhyw elfen o’r gydnabyddiaeth honno, ar ffurf—

(i)

gwneud gwaith adeiladu, gwella neu atgyweirio adeilad neu waith arall i gynyddu gwerth tir, neu

(ii)

darparu gwasanaethau (ac eithrio cyflawni gwaith o’r faith);

(c)

gwneud darpariaeth i ACC wneud amrywiadau o dan adran 62 heb i’r prynwr roi hysbysiad am gais o dan is-adran (1) o’r adran honno (boed drwy gytundeb gyda’r prynwr neu drwy orfodaeth).

(2)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud unrhyw addasiadau i’r Ddeddf hon ag y bo Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn angenrheidiol neu’n hwylus.