(1)Os yw ACC o’r farn fod y prynwr—
(a)wedi methu cydymffurfio ag amod a osodwyd o dan adran 58(6)(c) neu a amrywiwyd o dan adran 62, neu
(b)mewn perthynas â’r cais gohirio neu gais a wnaed o dan adran 62(1)—
(i)wedi darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, neu
(ii)wedi atal gwybodaeth,
mae’r cais gohirio i’w drin fel pe na bai erioed wedi ei wneud (ac mae adran 57 o’r Ddeddf hon ac adran 157 o DCRhT yn gymwys yn unol â hynny).
(2)Mewn achos o’r fath rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r prynwr yn datgan bod y cais gohirio i’w drin fel pe na bai erioed wedi ei wneud ac yn nodi canlyniadau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2A. 63 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3