RHAN 6FFURFLENNI TRETH A THALIADAU
PENNOD 3GOHIRIO TRETH
62Amrywio ceisiadau gohirio
(1)
Pan fo ACC wedi cytuno i gais gohirio, caiff y prynwr roi hysbysiad i ACC yn gofyn am—
(a)
newid y dyddiad terfyn disgwyliedig;
(b)
amrywio neu godi amod a orfodwyd o dan adran 58(6)(c).
(2)
Rhaid i gais o dan is-adran (1) bennu’r newid mewn amgylchiadau y cred y prynwr ei fod yn cyfiawnhau’r newid, neu’n cyfiawnhau amrywio neu godi’r amod.
(3)
Os yw ACC o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny, caiff—
(a)
cytuno i’r cais a wneir o dan is-adran (1), neu
(b)
cytuno i—
(i)
dyddiad terfyn disgwyliedig gwahanol i’r hyn y gofynnwyd amdano o dan is-adran (1)(a);
(ii)
amrywiad gwahanol i amod i’r hyn y gofynnwyd amdano o dan is-adran (1)(b).
(4)
Pan fo ACC yn gwneud penderfyniad o dan yr adran hon rhaid iddo ddyroddi hysbysiad i’r prynwr yn nodi’r penderfyniad a’r rhesymau drosto.