Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

61Ceisiadau gohirio: effaith penderfyniad ACCLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan fo ACC yn cytuno i gais gohirio—

(a)rhaid i’r prynwr dalu’r swm gohiriedig cyn diwedd y diwrnod ar ôl y dyddiad y daw’r cyfnod gohirio i ben (er gwaethaf adran 57), a

(b)er gwaethaf adran 157(3) o DCRhT, dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr mewn perthynas â’r swm gohiriedig yw’r dyddiad ar ôl y dyddiad y mae’n ofynnol talu’r swm gohiriedig (ac mae Pennod 1 o Ran 6 o DCRhT i’w darllen yn unol â hynny).

(2)Pan fo ACC yn gwrthod cais gohirio (neu’n cytuno i gais ond yn cytuno i swm gohiriedig sy’n is na’r swm a geisir)—

(a)mae’n ofynnol talu swm y dreth y mae ACC wedi gwrthod ei ohirio (“y swm a wrthodir”) erbyn diwedd yr hwyraf o—

(i)y dyddiad y mae’r prynwr yn cael ei hysbysu am benderfyniad ACC, neu

(ii)y dyddiad y byddai’n ofynnol talu’r swm fel arall yn unol ag adran 57, a

(b)dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr ar gyfer y swm a wrthodir yw’r hwyraf o—

(i)y diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’n ofynnol talu’r swm a wrthodir, neu

(ii)y dyddiad a fyddai’n cael ei bennu fel arall o dan adran 157(3) o DCRhT fel dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr mewn perthynas â’r swm hwnnw.

(3)Gweler adrannau 47 a 48 am ddarpariaeth ynghylch achosion pan fo swm y dreth sy’n daladwy yn newid o ganlyniad i—

(a)digwyddiad dibynnol neu ddiffyg digwyddiad dibynnol, neu

(b)canfod cydnabyddiaeth oedd heb ei chanfod.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 61 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2A. 61 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3