RHAN 6FFURFLENNI TRETH A THALIADAU
PENNOD 3GOHIRIO TRETH
61Ceisiadau gohirio: effaith penderfyniad ACC
(1)
Pan fo ACC yn cytuno i gais gohirio—
(a)
rhaid i’r prynwr dalu’r swm gohiriedig cyn diwedd y diwrnod ar ôl y dyddiad y daw’r cyfnod gohirio i ben (er gwaethaf adran 57), a
(b)
er gwaethaf adran 157(3) o DCRhT, dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr mewn perthynas â’r swm gohiriedig yw’r dyddiad ar ôl y dyddiad y mae’n ofynnol talu’r swm gohiriedig (ac mae Pennod 1 o Ran 6 o DCRhT i’w darllen yn unol â hynny).
(2)
Pan fo ACC yn gwrthod cais gohirio (neu’n cytuno i gais ond yn cytuno i swm gohiriedig sy’n is na’r swm a geisir)—
(a)
mae’n ofynnol talu swm y dreth y mae ACC wedi gwrthod ei ohirio (“y swm a wrthodir”) erbyn diwedd yr hwyraf o—
(i)
y dyddiad y mae’r prynwr yn cael ei hysbysu am benderfyniad ACC, neu
(ii)
y dyddiad y byddai’n ofynnol talu’r swm fel arall yn unol ag adran 57, a
(b)
dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr ar gyfer y swm a wrthodir yw’r hwyraf o—
(i)
y diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’n ofynnol talu’r swm a wrthodir, neu
(ii)
y dyddiad a fyddai’n cael ei bennu fel arall o dan adran 157(3) o DCRhT fel dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr mewn perthynas â’r swm hwnnw.
(3)
Gweler adrannau 47 a 48 am ddarpariaeth ynghylch achosion pan fo swm y dreth sy’n daladwy yn newid o ganlyniad i—
(a)
digwyddiad dibynnol neu ddiffyg digwyddiad dibynnol, neu
(b)
canfod cydnabyddiaeth oedd heb ei chanfod.