RHAN 6FFURFLENNI TRETH A THALIADAU
PENNOD 3GOHIRIO TRETH
I1I260Ceisiadau gohirio: hysbysiadau o benderfyniadau ACC
1
Pan fo ACC yn cytuno i gais gohirio, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad i’r prynwr sy’n pennu—
a
y swm gohiriedig a’r swm a wrthodir (os o gwbl),
b
dyddiad terfyn disgwyliedig y cyfnod gohirio,
c
unrhyw amod y mae ACC wedi ei osod o dan adran 58(6)(c), a
d
os yw’r swm gohiriedig yn is na’r swm gohiriedig arfaethedig, y rhesymau am y penderfyniad hwnnw.
2
Pan fo ACC yn gwrthod cais gohirio, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad i’r prynwr yn pennu’r rhesymau dros wrthod.