xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)At ddibenion y Ddeddf hon, mae pob un o’r canlynol yn achos o gaffael ac o waredu buddiant trethadwy—
(a)creu’r buddiant;
(b)ildio neu ollwng y buddiant;
(c)amrywio’r buddiant.
(2)Ond nid yw amrywio les yn achos o gaffael a gwaredu buddiant trethadwy oni bai—
(a)ei fod yn cael effaith, neu’n cael ei drin at ddibenion y Ddeddf hon, fel rhoi les newydd, neu
(b)bod paragraff 24 o Atodlen 6 (gostwng rhent neu leihau cyfnod neu amrywio les mewn ffordd arall) yn gymwys.
(3)Mae person yn caffael buddiant trethadwy pan fo—
(a)y person yn dod â hawl i’r buddiant pan gaiff ei greu,
(b)ildio neu ollwng y buddiant o fudd i fuddiant neu i hawl y person neu’n cynyddu’r buddiant neu’r hawl, neu
(c)y person yn cael budd o amrywio’r buddiant.
(4)Mae person yn gwaredu buddiant trethadwy pan fo—
(a)buddiant neu hawl y person yn dod yn ddarostyngedig i’r buddiant pan gaiff ei greu,
(b)y person yn peidio â bod â hawl i’r buddiant pan gaiff ei ildio neu ei ollwng, neu
(c)buddiant neu hawl y person yn ddarostyngedig i amrywio’r buddiant neu wedi ei gyfyngu gan hynny.
(5)Mae’r adran hon yn cael effaith yn ddarostyngedig i adran 10(4) (cyflawni’n sylweddol heb gwblhau), adran 11(3) (cyflawni’n sylweddol gontract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti) a pharagraffau 20 a 24 o Atodlen 6 (cytundeb ar gyfer les a gostwng rhent neu leihau cyfnod neu amrywio les mewn ffordd arall).