RHAN 2Y DRETH A’R PRIF GYSYNIADAU

PENNOD 2TRAFODIADAU TIR

6Caffael a gwaredu buddiant trethadwy

1

At ddibenion y Ddeddf hon, mae pob un o’r canlynol yn achos o gaffael ac o waredu buddiant trethadwy—

a

creu’r buddiant;

b

ildio neu ollwng y buddiant;

c

amrywio’r buddiant.

2

Ond nid yw amrywio les yn achos o gaffael a gwaredu buddiant trethadwy oni bai—

a

ei fod yn cael effaith, neu’n cael ei drin at ddibenion y Ddeddf hon, fel rhoi les newydd, neu

b

bod paragraff 24 o Atodlen 6 (gostwng rhent neu leihau cyfnod neu amrywio les mewn ffordd arall) yn gymwys.

3

Mae person yn caffael buddiant trethadwy pan fo—

a

y person yn dod â hawl i’r buddiant pan gaiff ei greu,

b

ildio neu ollwng y buddiant o fudd i fuddiant neu i hawl y person neu’n cynyddu’r buddiant neu’r hawl, neu

c

y person yn cael budd o amrywio’r buddiant.

4

Mae person yn gwaredu buddiant trethadwy pan fo—

a

buddiant neu hawl y person yn dod yn ddarostyngedig i’r buddiant pan gaiff ei greu,

b

y person yn peidio â bod â hawl i’r buddiant pan gaiff ei ildio neu ei ollwng, neu

c

buddiant neu hawl y person yn ddarostyngedig i amrywio’r buddiant neu wedi ei gyfyngu gan hynny.

5

Mae’r adran hon yn cael effaith yn ddarostyngedig i adran 10(4) (cyflawni’n sylweddol heb gwblhau), adran 11(3) (cyflawni’n sylweddol gontract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti) a pharagraffau 20 a 24 o Atodlen 6 (cytundeb ar gyfer les a gostwng rhent neu leihau cyfnod neu amrywio les mewn ffordd arall).