xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CY DRETH A’R PRIF GYSYNIADAU

PENNOD 2LL+CTRAFODIADAU TIR

6Caffael a gwaredu buddiant trethadwyLL+C

(1)At ddibenion y Ddeddf hon, mae pob un o’r canlynol yn achos o gaffael ac o waredu buddiant trethadwy—

(a)creu’r buddiant;

(b)ildio neu ollwng y buddiant;

(c)amrywio’r buddiant.

(2)Ond nid yw amrywio les yn achos o gaffael a gwaredu buddiant trethadwy oni bai—

(a)ei fod yn cael effaith, neu’n cael ei drin at ddibenion y Ddeddf hon, fel rhoi les newydd, neu

(b)bod paragraff 24 o Atodlen 6 (gostwng rhent neu leihau cyfnod neu amrywio les mewn ffordd arall) yn gymwys.

(3)Mae person yn caffael buddiant trethadwy pan fo—

(a)y person yn dod â hawl i’r buddiant pan gaiff ei greu,

(b)ildio neu ollwng y buddiant o fudd i fuddiant neu i hawl y person neu’n cynyddu’r buddiant neu’r hawl, neu

(c)y person yn cael budd o amrywio’r buddiant.

(4)Mae person yn gwaredu buddiant trethadwy pan fo—

(a)buddiant neu hawl y person yn dod yn ddarostyngedig i’r buddiant pan gaiff ei greu,

(b)y person yn peidio â bod â hawl i’r buddiant pan gaiff ei ildio neu ei ollwng, neu

(c)buddiant neu hawl y person yn ddarostyngedig i amrywio’r buddiant neu wedi ei gyfyngu gan hynny.

(5)Mae’r adran hon yn cael effaith yn ddarostyngedig i adran 10(4) (cyflawni’n sylweddol heb gwblhau), adran 11(3) (cyflawni’n sylweddol gontract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti) a pharagraffau 20 a 24 o Atodlen 6 (cytundeb ar gyfer les a gostwng rhent neu leihau cyfnod neu amrywio les mewn ffordd arall).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2A. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3