59Cyfrifo’r swm y gellir ei ohirioLL+C
Mae’r swm y gellir ei ohirio mewn cysylltiad â thrafodiad tir y mae adran 58(1) yn gymwys iddo i’w gyfrifo fel a ganlyn.
Cam 1
Cyfrifo swm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r trafodiad tir yn unol ag adran 27 neu 28.
Cam 2
Pennu swm neu werth y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad tir—
(a)nad yw eisoes wedi ei dalu neu ei ddarparu,
(b)sy’n ddibynnol neu’n ansicr (gweler adrannau 19 ac 20),
(c)nad yw ar ffurf—
(i)rhent (o fewn yr ystyr a roddir yn Atodlen 6), neu
(ii)blwydd-dal y mae adran 21 yn gymwys iddo, a
(d)sydd i’w dalu neu i’w ddarparu ar un neu ragor o ddyddiadau yn y dyfodol, y bydd neu y gall o leiaf un ohonynt fod fwy na 6 mis ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.
Y swm neu’r gwerth hwnnw o gydnabyddiaeth yw’r gydnabyddiaeth ohiriedig.
Cam 3
Cyfrifo (yn unol ag adran 27 neu 28) swm y dreth a fyddai wedi bod i’w godi mewn cysylltiad â’r trafodiad tir pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad wedi ei gostwng gan swm neu werth y gydnabyddiaeth ohiriedig.
Cam 4
Didynnu swm y dreth a gyfrifwyd yng ngham 3 o’r swm a gyfrifwyd yng ngham 1.
Swm y dreth sy’n weddill yw’r swm y gellir ei ohirio.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2A. 59 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3