(1)Caiff prynwr mewn trafodiad tir pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy neu ran ohoni yn ddibynnol neu’n ansicr (gweler adrannau 19 a 20) roi hysbysiad i ACC (“cais gohirio”) yn gofyn am ohirio talu swm o dreth sy’n daladwy a ddatgenir ar y ffurflen dreth gyntaf sy’n ymwneud â’r trafodiad (“y swm a geisir”).
(2)Ond ni chaiff y swm a geisir fod yn fwy na’r swm y gellir ei ohirio (gweler adran 59).
(3)Rhaid i ACC gytuno i gais gohirio—
(a)os dychwelir y ffurflen dreth ac os gwneir y cais gohirio ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen dreth honno neu cyn hynny,
(b)os yw’r cais—
(i)yn pennu’r swm y ceisir ei ohirio,
(ii)yn nodi sut y cyfrifwyd y swm a geisir yn unol ag adran 59 (gan gynnwys swm y gydnabyddiaeth sydd o fewn cam 2 o’r cyfrifiad hwnnw (“y gydnabyddiaeth ohiriedig”)),
(iii)yn nodi’r rhesymau pam fod y gydnabyddiaeth ohiriedig yn ddibynnol neu’n ansicr a’r rhesymau pam y mae i’w dalu neu i’w ddarparu ar un neu ragor o ddyddiadau yn y dyfodol, y bydd neu y gall o leiaf un ohonynt fod fwy na 6 mis ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith,
(iv)yn cynnig dyddiad terfyn disgwyliedig y cyfnod gohirio (gweler is-adran (8)), a
(v)yn cynnwys unrhyw wybodaeth arall a all fod yn ofynnol yn rhinwedd adran 191 o DCRhT (rhoi hysbysiadau i ACC),
(c)os yw ACC yn fodlon nad yw’r swm a geisir yn fwy na’r swm y gellir ei ohirio a gyfrifir yn unol ag adran 59, a
(d)os nad yw’r trafodiad tir yn drefniant osgoi trethi nac yn ffurfio rhan o drefniadau sy’n drefniadau osgoi trethi.
(4)Fel arall rhaid i ACC wrthod cais gohirio (ond gweler is-adrannau (5) a (6)).
(5)Ond os yw ACC o’r farn fod y swm a geisir yn fwy na’r swm y gellir ei ohirio caiff ganiatáu’r cais gohirio er hynny mewn perthynas â hynny o’r swm a geisir nad yw’n fwy na’r swm y gellir ei ohirio.
(6)Wrth gytuno i gais gohirio—
(a)rhaid i ACC bennu swm y dreth y mae’n cytuno i’w ohirio (y “swm gohiriedig”);
(b)rhaid i ACC bennu dyddiad terfyn disgwyliedig y cyfnod gohirio (a gaiff fod yn wahanol i’r dyddiad terfyn disgwyliedig a gynigir gan y prynwr) (gweler is-adran (8));
(c)caiff ACC osod unrhyw amodau (gan gynnwys amodau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r prynwr dalu rhan o’r swm gohiriedig ar adegau penodedig yn ystod y cyfnod gohirio) ag y bo’n briodol ym marn ACC.
(7)Yn yr adran hon, mae i “trefniant osgoi trethi” yr un ystyr ag yn adran 31.
(8)Yn y Bennod hon—
(a)ystyr “cyfnod gohirio” yw’r cyfnod sy’n dechrau â dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth y cyfeirir ati yn is-adran (1) ac sy’n dod i ben ar y cynharaf o’r canlynol—
(i)y dyddiad terfyn disgwyliedig, neu
(ii)y dyddiad y ceir digwyddiad a grybwyllir yn is-adran (9) mewn perthynas â’r gydnabyddiaeth ohiriedig;
(b)ystyr “dyddiad terfyn disgwyliedig”yw—
(i)y dyddiad y disgwylir digwyddiad a grybwyllir yn is-adran (9) mewn perthynas â’r gydnabyddiaeth ohiriedig, neu
(ii)os na ellir rhagfynegi’r dyddiad hwnnw, bum mlynedd i’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (neu, pan newidir y dyddiad terfyn disgwyliedig o dan adran 62, bum mlynedd i’r dyddiad terfyn disgwyliedig blaenorol).
(9)Y digwyddiadau yw—
(a)pan fo’r gydnabyddiaeth ohiriedig yn ddibynnol, dyddiad y digwyddiad dibynnol neu’r dyddiad y daw’n amlwg na fydd yn digwydd;
(b)pan fo’r gydnabyddiaeth ohiriedig yn ansicr, y dyddiad y canfyddir y gydnabyddiaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2A. 58 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3