Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Valid from 01/04/2018

56Rhwymedigaeth ar gyfer trethLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i’r prynwr mewn trafodiad trethadwy dalu’r dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad hwnnw ac felly mae’r dreth i’w chodi ar y prynwr at ddibenion DCRhT.

(2)O ran atebolrwydd prynwyr sy’n gweithredu ar y cyd, gweler—

(a)adrannau 37 i 40 (cydbrynwyr),

(b)Atodlen 7 (partneriaethau), ac

(c)Atodlen 8 (ymddiriedolaethau).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)