RHAN 6FFURFLENNI TRETH A THALIADAU

PENNOD 1FFURFLENNI TRETH

Datganiadau

55Datganiad gan berson a awdurdodir i weithredu ar ran unigolyn

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys i ddatganiad a grybwyllir yn adran 53 bod ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn.

(2)

Pan fo’r prynwr yn unigolyn, caiff y gofyniad bod y prynwr yn gwneud datganiad o’r fath (ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag eraill) ei drin fel pe bai wedi ei fodloni os yw person a awdurdodir i weithredu ar ran yr unigolyn hwnnw mewn perthynas â’r materion y mae’r ffurflen dreth neu’r dystysgrif yn ymwneud â hwy yn gwneud datganiad i’r perwyl hwnnw.

(3)

At ddibenion yr adran hon nid ystyrir bod person (“P”) wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran unigolyn oni bai bod P wedi ei awdurdodi felly gan atwrneiaeth ysgrifenedig, a lofnodwyd gan yr unigolyn hwnnw.

(4)

Nid yw’r adran hon yn gymwys pan fo unigolyn yn gweithredu’n unol ag adran 33 (personau y mae cwmni yn gweithredu drwyddynt)—

(a)

fel swyddog priodol cwmni, neu

(b)

fel arall ar ran cwmni.