RHAN 6FFURFLENNI TRETH A THALIADAU

PENNOD 1FFURFLENNI TRETH

Datganiadau

54Prynwr ag anabledd: datganiad gan y Cyfreithiwr Swyddogol

(1)

Pan fo—

(a)

prynwr mewn trafodiad tir yn anabl,

(b)

y Cyfreithiwr Swyddogol yn gweithredu ar ran y prynwr hwnnw, ac

(c)

y ffurflen dreth yn cynnwys datganiad gan y Cyfreithiwr Swyddogol fod y ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn, hyd eithaf gwybodaeth y Cyfreithiwr Swyddogol,

tybir bod y gofyniad yn adran 53 wedi ei fodloni.

(2)

Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar atebolrwydd y prynwr o dan y Ddeddf hon na DCRhT.

(3)

At ddibenion yr adran hon, mae person yn anabl os oes ganddo anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15).

(4)

Yn yr adran hon, ystyr y “Cyfreithiwr Swyddogol” yw’r Cyfreithiwr Swyddogol i’r Uwchlysoedd.