RHAN 6FFURFLENNI TRETH A THALIADAU
PENNOD 1FFURFLENNI TRETH
Addasiadau
52Pŵer i ddiwygio’r cyfnod pan fo rhaid dychwelyd ffurflenni treth
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio darpariaeth a restrir yn is-adran (2) er mwyn rhoi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod a bennir yno am y tro.
(2)
Y darpariaethau yw—
(a)
adran 44(2)(a);
(b)
adran 47(3)(a);
(c)
adran 49(2)(a);
(d)
adran 51(3)(a);
(e)
paragraff 24(4)(a) o Atodlen 5;
(f)
paragraff 3(4) o Atodlen 6;
(g)
paragraff 5(5) o’r Atodlen honno;
(h)
paragraff 13(1) o’r Atodlen honno.