RHAN 6FFURFLENNI TRETH A THALIADAU
PENNOD 1FFURFLENNI TRETH
Addasiadau
51Dychwelyd ffurflen dreth o ganlyniad i drafodiad cysylltiol diweddarach
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo effaith trafodiad sy’n gysylltiol o ran trafodiad cynharach (“y trafodiad diweddarach”) fel a ganlyn—
(a)
daw’r trafodiad cynharach yn hysbysadwy,
(b)
mae treth ychwanegol i’w chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad cynharach, neu
(c)
mae treth i’w chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad cynharach pan nad oedd unrhyw dreth i’w chodi cyn hynny.
(2)
Rhaid i’r prynwr yn y trafodiad cynharach ddychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad hwnnw.
(3)
Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan yr adran hon—
(a)
cael ei dychwelyd cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad diweddarach yn cael effaith, a
(b)
cynnwys hunanasesiad.
(4)
Nid yw’r adran hon yn effeithio ar unrhyw ofyniad i ddychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad diweddarach.