5Buddiant esemptLL+C
(1)Mae’r canlynol yn fuddiannau esempt—
(a)buddiant sicrhad;
(b)trwydded i ddefnyddio tir neu i feddiannu tir;
(c)tenantiaeth wrth ewyllys;
(d)rhyddfraint neu faenor.
(2)Yn is-adran (1)—
(a)ystyr “buddiant sicrhad” yw buddiant neu hawl (ar wahân i rent-dal) a ddelir at ddiben sicrhau y telir arian neu y caiff unrhyw rwymedigaeth arall ei chyflawni;
(b)ystyr “rhyddfraint” yw grant gan y Goron megis yr hawl i gynnal marchnad neu ffair, neu’r hawl i gymryd tollau.
(3)Gweler hefyd baragraff 7 o Atodlen 10 (sy’n gwneud darpariaeth ychwanegol ynghylch buddiannau esempt mewn perthynas â threfniadau ariannol eraill).
(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy reoliadau er mwyn—
(a)darparu bod unrhyw ddisgrifiad arall o fuddiant neu hawl mewn perthynas â thir yng Nghymru yn fuddiant esempt;
(b)darparu nad yw disgrifiad o fuddiant neu hawl mewn perthynas â thir yng Nghymru yn fuddiant esempt mwyach;
(c)amrywio disgrifiad o fuddiant esempt.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2A. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3