RHAN 2Y DRETH A’R PRIF GYSYNIADAU

PENNOD 2TRAFODIADAU TIR

5Buddiant esempt

(1)

Mae’r canlynol yn fuddiannau esempt—

(a)

buddiant sicrhad;

(b)

trwydded i ddefnyddio tir neu i feddiannu tir;

(c)

tenantiaeth wrth ewyllys;

(d)

rhyddfraint neu faenor.

(2)

Yn is-adran (1)—

(a)

ystyr “buddiant sicrhad” yw buddiant neu hawl (ar wahân i rent-dal) a ddelir at ddiben sicrhau y telir arian neu y caiff unrhyw rwymedigaeth arall ei chyflawni;

(b)

ystyr “rhyddfraint” yw grant gan y Goron megis yr hawl i gynnal marchnad neu ffair, neu’r hawl i gymryd tollau.

(3)

Gweler hefyd baragraff 7 o Atodlen 10 (sy’n gwneud darpariaeth ychwanegol ynghylch buddiannau esempt mewn perthynas â threfniadau ariannol eraill).

(4)

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy reoliadau er mwyn—

(a)

darparu bod unrhyw ddisgrifiad arall o fuddiant neu hawl mewn perthynas â thir yng Nghymru yn fuddiant esempt;

(b)

darparu nad yw disgrifiad o fuddiant neu hawl mewn perthynas â thir yng Nghymru yn fuddiant esempt mwyach;

(c)

amrywio disgrifiad o fuddiant esempt.