RHAN 6FFURFLENNI TRETH A THALIADAU

PENNOD 1FFURFLENNI TRETH

Trafodiadau hysbysadwy

46Eithriadau ar gyfer caffaeliadau penodol prif fuddiannau mewn tir

(1)

Mae’r eithriadau y cyfeirir atynt yn adran 45 fel a ganlyn.

(2)

Trafodiad sy’n esempt rhag codi treth arno fel y darperir yn Atodlen 3.

(3)

Caffaeliad ac eithrio rhoi, aseinio neu ildio les pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy, ynghyd â’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer unrhyw drafodiadau cysylltiol, yn llai na £40,000.

(4)

Rhoi les am gyfnod o lai na 7 mlynedd, pan na fo’r gydnabyddiaeth drethadwy uwchlaw’r trothwy cyfradd sero.

(5)

Aseinio neu ildio les—

(a)

pan roddwyd y les yn wreiddiol am gyfnod o lai na 7 mlynedd, a

(b)

pan na fo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr aseinio neu’r ildio uwchlaw’r trothwy cyfradd sero.

(6)

Rhoi les am gyfnod o 7 mlynedd neu ragor pan fo—

(a)

y gydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent yn llai na £40,000, a

(b)

y rhent perthnasol yn llai na £1,000.

(7)

Aseinio neu ildio les—

(a)

pan roddwyd y les yn wreiddiol am gyfnod o 7 mlynedd neu ragor, a

(b)

pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr aseinio neu’r ildio yn llai na £40,000.

(8)

Mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer caffaeliad uwchlaw’r trothwy cyfradd sero os yw’n cynnwys—

(a)

unrhyw swm y mae treth i’w chodi arno ar gyfradd o fwy na 0%, neu

(b)

unrhyw swm y byddai treth i’w chodi arno felly oni bai am ryddhad a restrir yn adran 30(2) neu (3).

(9)

Yn is-adran (6), ystyr “rhent perthnasol” yw—

(a)

y rhent blynyddol (fel y’i diffinnir ym mharagraff 36(2) o Atodlen 6), neu

(b)

yn achos rhoi les y mae paragraff 31 o Atodlen 7 yn gymwys iddi, y gyfran drethadwy berthnasol o’r rhent blynyddol (fel y’i cyfrifir yn unol â’r paragraff hwnnw).

(10)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (3), (6) neu (7) er mwyn rhoi swm gwahanol yn lle’r swm a bennir yno am y tro.